Leighton Andrews AC, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn gyfrifol am brisio pob eiddo annomestig at ddibenion codi Ardrethi Annomestig (NDR). Mae rhestri ardrethu newydd yn cael eu llunio a’u cyhoeddi fel rheol bob pum mlynedd. Roedd ailbrisiad i fod i ddigwydd yn 2015. Er hynny, penderfynodd Llywodraeth Cymru ohirio’r ailbrisiad tan 2017 yn dilyn penderfyniad gan Lywodraeth y DU i ohirio’r ailbrisiad yn Lloegr.
Prif ddiben ailbrisio a phennu’r lluosydd, yw addasu rhwymedigaeth eiddo o’u cymharu ag eraill o fewn sylfaen drethu NDR. Mae hyn yn sicrhau bod y rheidrwydd i dalu ardrethi’n cael ei ledaenu’n gyfartal rhwng talwyr ardrethi, a’i fod yn seiliedig ar werthoedd rhenti cyfoes. Mae hyn, yn ei dro’n sicrhau bod meddianwyr pob eiddo annomestig yng Nghymru’n talu eu cyfran deg o NDR yn seiliedig ar werthoedd rhentu.
Mae gwaith bellach yn cael ei wneud gan y VOA i sicrhau bod gwerth ardrethol newydd yn cael ei ddyrannu i bob eiddo ar sail eu gwerth rhentu ar y Dyddiad Prisio Rhagflaenol o 1 Ebrill 2015.
Mae’r VOA yn defnyddio tri dull o gyfrifo gwerth ardrethol eiddo, yn dibynnu ar y dystiolaeth sydd ar gael. Defnyddir Sylfaen y Contractwr ar gyfer eiddo arbenigol, pan nad oes unrhyw dystiolaeth ar gael am y gwerth rhentu. Mae rhyw 20% o’r holl eiddo annomestig yng Nghymru’n cael eu prisio yn ôl Sylfaen y Contractwr. Mae’r eiddo hyn yn cynnwys cyfleustodau, ysgolion, ysbytai, diwydiant trwm, gorsafoedd tân a’r heddlu, a meysydd awyr, ymhlith eraill.
Mae’r gyfradd ddatgyfalafu yn rhan allweddol o Ddull Prisio Sylfaen y Contractwr. Ffigur canrannol ydyw sy’n cael ei ddefnyddio i drosi gwerth cyfalaf yn werth rhent blynyddol. Mae’n sicrhau bod costau a manteision bod yn berchen ar eiddo, o’i gymharu â rhentu eiddo, yn cael eu cymryd i ystyriaeth wrth gyfrifo gwerth ardrethol eiddo. Ers 1990, mae’r gyfradd ddatgyfalafu wedi cael ei rhagnodi mewn deddfwriaeth.
Mae’r ymgynghoriad yn gofyn barn ynghylch a ddylai cyfraddau datgyfalafu gael eu rhagnodi mewn deddfwriaeth, faint o gyfraddau ddylai gael eu rhagnodi a sut y dylai’r cyfradd(au) gael eu cyfrifo. Bydd y cyfnod ymgynghori’n para am gyfnod o chwe wythnos a gofynnir am ymatebion erbyn 25 Medi 2015.
Mae’r papur ymgynghori’n cael ei anfon at yr Awdurdodau Lleol a chyrff perthnasol eraill sydd â buddiant technegol mewn trethu lleol. Caiff ei gyhoeddi ar-lein.
Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi gwybodaeth i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.