Edwina Hart, Y Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Sefydlwyd Bwrdd Dinas-Ranbarth Abertawe gennyf ym mis Tachwedd 2013, gyda chylch gwaith clir i ddarparu arweinyddiaeth, gweledigaeth a chyfeiriad strategol i’r rhanbarth.
O dan arweiniad arbenigol Syr Terry Matthews, mae’r Bwrdd wedi creu brwdfrydedd, ymrwymiad a chyffro yn agenda y dinas-ranbarthau. Mae wedi cyflawni yn erbyn y prif amcanion a bennwyd gennyf – gan nodi’r blaenoriaethau a sicrhau gwell aliniad ar draws y rhanbarth. Mae partneriaid cyflenwi ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat ac Addysg Bellach ac Uwch bellach yn cydweithio ar y gweithgareddau a bennwyd gan y Bwrdd yn ei gynlluniau ar gyfer datblygiad a thwf.
Mae’n bwysig nad ydym yn colli’r momentwm sydd wedi’i greu a’r pwrpas ar y cyd o ran uchelgeisiau cyffredin. Yn ogystal â darparu cyfeiriad strategol a hyrwyddo y cydweithio sydd ei angen yn yr hirdymor, mae angen bellach i symud ymlaen i gyfnod cyflenwi a chylch gwaith newydd.
Am y rheswm hwnnw rwyf wedi penderfynu diweddaru cylch gorchwyl a thelerau penodi, gyda threfniadau newydd y Bwrdd hefyd yn sefydlu aelodaeth ffurfiol i nifer o ddeiliaid swyddi o fewn y rhanbarth. Bydd cylch gwaith y Bwrdd wrth fynd ymlaen yn cynnwys:
- cyfeiriad strategol gan nodi a hyrwyddo prosiectau mawr
- cyfathrebu a marchnata gan ganolbwyntio ar fuddsoddi mewnol
- sefydlu a rheoli ystafell farchnata ranbarthol newydd.
Bydd Syr Terry yn Cadeirio’r Bwrdd, sy’n gyfuniad o strwythurau llywodraethol ar hyn o bryd i ddatblygu’r Ddinas-Ranbarth.
Bydd cylch gorchwyl Bwrdd Dinas-Ranbarth Bae Abertawe yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru maes o law. Aelodau arfaethedig y Bwrdd fydd:
Syr Terry Matthews (Cadeirydd), Wesley Clover
Cyngh Meryl Gravell (Is-gadeirydd), Cyngor Sir Gaerfyrddin
Steve Penny, Cyfarwyddwr Clwb Pêl-droed Abertawe/Ymgynghorydd JCP
Juliet Luporini, Cadeirydd Ardal Gwella Busnes Abertawe
Rosemary Morgan, Morgan La Roche
Paul Greenwood, TES Ltd
Nick Revell, Ledwood Mechanical Engineering Ltd
Mark Bowen, Rheolwr-gyfarwyddwr Andrew Scott Ltd
Keith Baker, Pure Wafer
Andrew Evans, Gwesty St Brides, Saundersfoot
Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, Yr Athro Richard Davies
Barry Liles, Cadeirydd Partneriaeth Dysgu Rhanbarthol
Is-Ganghellor Prifysgo Cymru y Drindod Dewi Sant, yr Athro Medwin Hughes
Andy Richards, Ysgrifennydd Cymru - Unite
Dave Gilbert, Cynghorydd
Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, y Cyngh Ali Thomas
Arweinydd Dinas a Sir Abertawe, y Cyngh Rob Stewart
Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, y Cyngh Emlyn Dole
Arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cyngh Jamie Adams,
Simon Gibson, Wesley Clover
Cadeirydd rhaglen ARCH, yr Athro Andrew Davies