Ken Skates, Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Mae'n bleser mawr gen i rannu ag Aelodau'r Cynulliad y Cynllun Gweithredu Strategol newydd ar gyfer Addoldai yng Nghymru, sy'n canolbwyntio ar bobl a chymunedau yn defnyddio, yn mwynhau ac yn gofalu am ein haddoldai hanesyddol a dod o hyd i ffyrdd y gall yr adeiladau hyn gadw neu adennill eu gwerth wrth galon cymunedau.
Bydd Aelodau yn ymwybodol bod y gwaith cwmpasu ar gyfer y cynllun wedi digwydd tuag at ddiwedd 2014 gan ganolbwyntio ar adolygu cyflwr y wybodaeth ac argaeledd y wybodaeth, cefnogaeth sy'n bodoli eisoes i gadwraeth a'r gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd presennol. Yna gwnaethom ymgysylltu yn fwy eang â rhanddeiliaid o'r enwadau, awdurdodau lleol a chymdeithasau amwynder. Gwnaethom hefyd ymgynghori â chydweithwyr o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Ymddiriedolaethau Archeolegol Cymru a chydweithwyr o Adrannau Llywodraeth Cymru gan gynnwys Croeso Cymru a Thai ac Adfywio. Ymgynghorwyd â ffrwyth yr ymgynghoriad hwn eto yn ystod haf 2015 cyn i mi gytuno ar y cynllun olaf sydd bellach yn cyd-fynd â'r Datganiad Ysgrifenedig hwn.
Mae'r Cynllun Gweithredu Strategol yn nodi'r ystod o fesurau newydd i'w datblygu mewn partneriaeth â chyrff ac enwadau amrywiol i gefnogi'r rheini sy'n gyfrifol am addoldai er mwyn wynebu heriau gofalu amdanynt a'u cynnal a'u cadw, naill ai yn eu defnydd gwreiddiol neu ddefnydd amgen.
Mae'r cynllun gweithredu yn defnyddio dull traws-sector i annog pob rhanddeiliad i gydweithio er mwyn hyrwyddo pwysigrwydd y dreftadaeth unigryw hon a chynnig cymorth i'r cynulleidfaoedd a'r cymunedau sy'n gofalu amdani. Bydd Cadw yn helpu i gydgysylltu gweithgareddau ac yn canolbwyntio ei adnoddau ei hun lle y gall ychwanegu'r gwerth mwyaf, megis drwy roi cyngor ac arweiniad. Caiff camau gweithredu eraill eu datblygu gan bartneriaid i sicrhau perchenogaeth ar draws y sector a dull partneriaeth gwirioneddol.
Mae'r Cynllun yn nodi cyfres o gamau gweithredu byrdymor, tymor canolig a hirdymor, a'i flaenoriaeth gyntaf yw sefydlu fforwm i rannu gwybodaeth ac arfer gorau, adolygu anghenion parhaus a helpu i lywio'r ffordd y caiff y cynllun gweithredu ei ddarparu. Mae camau gweithredu eraill er enghraifft yn canolbwyntio ar sicrhau bod gwybodaeth sy'n cefnogi penderfyniadau rheoli cynaliadwy ar gael, ac ar ddatblygu capasiti lleol i ymateb i'r heriau o gynnal yr adeiladau hyn.
Cynhelir cyfarfod agoriadol y fforwm ym mis Ionawr 2016 ac rwy'n bwriadu bod yn bresennol er mwyn diolch i'r sector am ei ymrwymiad pwysig ac i'w hannerch yn uniongyrchol am y Cynllun a phwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth ac ymrwymiad i fwynhau'r manteision llawn y gwn y gall y cynllun hwn eu cynnig.
Fel minnau, gwn fod gan lawer ohonoch bryderon ynglŷn â dyfodol cynaliadwy ein haddoldai. Nid wyf o'r farn bod y Cynllun yn datrys yr holl broblemau y mae ein haddoldai yn eu hwynebu ond mae'n gychwyn da, cadarnhaol a gobeithio y byddwch i gyd yn cefnogi'r Cynllun Gweithredu Strategol a fydd yn helpu i roi'r adnoddau i bobl sy'n gofalu am addoldai i gynllunio ar gyfer y dyfodol a hefyd yn helpu i atgyfnerthu'r ffordd o ennyn diddordeb y cyhoedd yn nhreftadaeth ein hadeiladau crefyddol, annog cyfranogiad cymunedau lleol ac ategu strategaeth Twristiaeth Ffydd.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Addoldai Hanesyddol yng Nghymru (dolen allanol)