Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Ym mis Hydref 2013, ymrwymais i adolygu a diweddaru’r Canllawiau Cynnwys a Chynorthwyo Disgyblion. Roedd yr ymrwymiad hwn yn ymateb i argymhellion yr “Ymchwiliad i Bresenoldeb ac Ymddygiad” a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ac “Evaluation of education provision for children and young people educated outside the school setting”, adroddiad ymchwil gan Brifysgol Caeredin.
Ym mis Hydref a Thachwedd 2014, cadarnhawyd fy ymrwymiad i gyhoeddi canllawiau diwygiedig ac, bryd hynny, dywedais hefyd y byddai dogfen ddiwygiedig ar gael yng ngwanwyn 2015.
I gefnogi fy ymrwymiad i addysg gynhwysol, mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio i sicrhau bod y Canllawiau Cynnwys a Chynorthwyo Disgyblion yn cael eu hadolygu mewn modd sy’n gyson â chynigion Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru).
Yn fy natganiad ysgrifenedig ar 18 Mehefin, cyhoeddais fy mwriad i ymgynghori ar Fil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) ac ar y Cod Ymarfer Anghenion Dysgu Ychwanegol arfaethedig. Yn dilyn fy natganiad, ni fydd yr amserlenni ar gyfer ymgynghori ar y Canllawiau Cynnwys a Chynorthwyo Disgyblion drafft yn cyd-fynd mwyach â hynt y Bil. Yn hytrach, bydd y canllawiau diwygiedig yn cynnig sylfaen i ysgolion a gynhelir ac awdurdodau lleol ar gyfer cynllunio eu gwasanaeth addysg gynhwysol, sy’n canolbwyntio ar fodel o gefnogaeth wedi’i gwahaniaethu i bob dysgwr.
Rwyf am i’r Canllawiau Cynnwys a Chynorthwyo Disgyblion diwygiedig fod yn ddogfen ‘fyw’ ac yn destun rhaglen dreigl o ddiweddariadau a fydd yn gydnaws â’r newidiadau pwysig i ddeddfwriaeth a pholisi sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc mewn lleoliad addysgol. Drwy lunio’r ddogfen fyw hon, gallaf fod yn dawel fy meddwl fod ysgolion ac awdurdodau lleol yn cael y cyngor a’r canllawiau diweddaraf i gefnogi pob dysgwr i gyflawni ei botensial llawn.
Bydd fersiwn ddrafft o’r canllawiau yn cael ei rhyddhau yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn hydref 2015; a bydd y cyhoeddiad terfynol yn dilyn yng ngwanwyn 2016. Bydd y cynigion yn Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yn cael eu cynnwys yn y Canllawiau Cynnwys a Chynorthwyo Disgyblion wrth i’r gwaith o’u diweddaru fynd rhagddo, a phan fydd yn briodol gwneud hynny. Yn y cyfamser, bydd y Canllawiau Cynnwys a Chynorthwyo Disgyblion presennol ar gael o hyd i ysgolion a gynhelir ac awdurdodau lleol allu cyfeirio atynt wrth gefnogi dysgwyr agored i niwed.