Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Ym mis Ionawr, byddwn yn dechrau adolygiad ffurfiol o Hybu Cig Cymru. HCC yw’r corff lefi amaethyddol ar gyfer y sector cig coch yng Nghymru. Mae’n eiddo i Lywodraeth Cymru ond yn cael ei weithredu’n annibynnol. Mae’n hyrwyddo ac yn marchnata cynnyrch cig o Gymru yn y DU a thramor, ac yn gweithio i ddatblygu gwell safonau yn y sector amaethu cig coch yng Nghymru. Gwna hyn drwy roi hyfforddiant, drwy drosglwyddo technoleg a thrwy ddarparu gwybodaeth i ffermwyr a chyrff eraill yn y diwydiant, yn ogystal â thrwy gynnal ymchwil a datblygu.
Rwyf am i’r adolygiad hwn werthuso swyddogaeth a llwyddiant HCC ac edrych ar y gwerth am arian y mae’n ei roi i Lywodraeth Cymru. Bydd yr adolygiad yn sail ar gyfer penderfynu a ddylai HCC barhau â’i swyddogaethau presennol ac a oes angen newid y swyddogaethau hynny. Bydd dau gam i’r adolygiad; yn gyntaf, nodi ac archwilio swyddogaethau allweddol HCC a pha mor lwyddiannus y’u cyflawnir. Yn ail, edrych ar argymhellion y cam cyntaf ac ystyried sut orau i’w cyflawni.
Bydd y rhanddeiliaid yn cael rhan lawn yn y broses adolygu hon a byddwn yn sicrhau bod trawsdoriad llawn o gynrychiolwyr y diwydiant, aelodau’r gadwyn gyflenwi a rhanddeiliaid yn cael cyfrannu.
Rwyf wedi gofyn i Kevin Roberts gynnal yr adolygiad hwn, yn sgîl ei waith ar yr Adolygiad Annibynnol o Gadernid Ffermio yng Nghymru yn 2013. Dros ei yrfa hir yn y diwydiant, mae Kevin eisoes wedi sefydlu cysylltiadau yn y maes ac wedi dod i wybod am weithrediadau’r cyrff lefi; bu ganddo swyddi blaenllaw yn y Comisiwn Cig a Da Byw ac ar y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a bu hefyd yn Gyfarwyddwr Cyffredinol yr NFU.
Cyhoeddir adroddiad Kevin ar ei adolygiad yn ystod haf 2016.