Jane Hutt, Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Ar 23 Medi 2014, lansiais y Papur Gwyn 'Casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru', yn ceisio safbwyntiau ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer gweinyddu trethi datganoledig. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 15 Rhagfyr.
Roedd y Papur Gwyn yn cadarnhau fy egwyddorion y bydd y trethi y byddwn yn eu datblygu yn deg i’r busnesau a’r unigolion sy’n eu talu, yn syml, gyda rheolau clir i leihau costau cydymffurfio a gweinyddu, yn cefnogi twf a swyddi er mwyn helpu i drechu tlodi, ac yn cynnig sefydlogrwydd a sicrwydd i drethdalwyr.
Roeddwn i’n falch o gael ymateb cryf, gan gynnwys nifer o gyfraniadau gan gyrff proffesiynol sy’n ymwneud â materion trethi a chyrff sy’n cynrychioli trethdalwyr. Ar y cyfan, cefnogwyd safbwynt Llywodraeth Cymru ar y prif faterion a nodwyd yn y Papur Gwyn.
Un cynnig canolog oedd sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru fel Adran Anweinidogol, a fyddai’n gweithredu ar wahân i Weinidogion Cymru ac yn atebol i’r Cynulliad. Roedd cefnogaeth gref i’r cynnig hwn, ynghyd â’r cynnig i sefydlu Siarter Drethdalwyr, a fyddai’n datgan yn glir safonau ymddygiad a gwerthoedd Awdurdod Cyllid Cymru a threthdalwyr Cymru fel ei gilydd..
Bydd gan Awdurdod Cyllid Cymru gyfrifoldeb cyfreithiol dros gasglu a rheoli trethi datganoledig Cymru. Serch hynny, byddai modd iddo ddirprwyo swyddogaethau o’r fath, felly rydym hefyd wedi ymgynghori ynghylch a allai sefydliadau eraill wneud rhywfaint o waith casglu a rheoli ar ei ran. Mae’r opsiynau’n cynnwys Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru. Roedd cefnogaeth glir dros barhau i drafod gyda darparwyr, ac rwy’n bwriadu cyhoeddi fy mhenderfyniad ynghylch pwy fydd yn casglu ac yn rheoli trethi datganoledig Cymru cyn cyflwyno Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru).
Roedd cefnogaeth helaeth i awgrym Llywodraeth Cymru o annog a galluogi cydymffurfiaeth gan drethdalwyr, a gweithio’n gyflym i ddatrys unrhyw anghydfod sy’n codi, a fyddai felly’n lleihau’r posibilrwydd o achosion llys. Hefyd, roedd cytundeb helaeth y dylem barhau i ddefnyddio system dribiwnlys haen gyntaf ac uwch bresennol y Weinyddiaeth Gyfiawnder i benderfynu ar apeliadau yng nghyd-destun trethi datganoledig.
Roedd rhan fawr o’r Papur Gwyn yn gofyn am farn ar sut i atal a mynd i’r afael ag osgoi trethi. Caiff y cyllid a ddaw o drethi datganoledig ei ddefnyddio i dalu am wasanaethau cyhoeddus ar hyd a lled Cymru – bydd o fudd i’n holl gymunedau. Mae osgoi talu yn tanseilio’r gwasanaethau hynny, ac mae’n annheg ac anghyfiawn. Mae’n flaenoriaeth hanfodol i Lywodraeth Cymru osod trefniadau cadarn i fynd i’r afael yn uniongyrchol â’r mater hwn. Byddaf yn disgwyl i Awdurdod Cyllid Cymru flaenoriaethu cydymffurfiaeth a mynd i’r afael â’r rheini sy’n osgoi talu.
Byddaf yn datblygu rheol osgoi trethi Cymru yng ngoleuni ymgynghori pellach. Bydd hyn yn ystyried yr ymatebion i’r Papur Gwyn ac yn tynnu ar brofiadau o fannau eraill, fel Rheol Gyffredinol y DU ar Atal Camddefnydd a Rheol Gyffredinol yr Alban ar Atal Osgoi. Yn bwysig, bydd yr ymgynghoriadau sydd ar y gweill ar drethi datganoledig Cymru yn dylanwadu ar hyn – y Dreth Trafodiadau Tir a fydd yn cymryd lle Treth Dir y Dreth Stamp y DU, a’r y Dreth Gwarediadau Tirlenwi a fydd yn cymryd lle Treth Dirlenwi y DU. Wrth benderfynu sut i fynd ati, mae’n hollbwysig ein bod ni’n dysgu o wybodaeth a phrofiad gwerthfawr ein rhanddeiliaid.
Ar ôl cwblhau’r ymgynghoriad 'Casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru', bydd Llywodraeth Cymru yn paratoi i gyflwyno Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru), i’w osod ar 6 Gorffennaf 2015. Rwy’n edrych ar opsiynau ar gyfer rhannu’r ddeddfwriaeth arfaethedig gyda Phwyllgor Cyllid y Cynulliad i helpu i graffu’n gynnar ar y ddeddfwriaeth newydd bwysig hon i Gymru.