Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Mae Deddf Cymru 2014, a gafodd ei phasio gan y Senedd fis Rhagfyr diwethaf, yn nodi pwerau cyllidol newydd i Gymru, gan gynnwys cymhwysedd deddfwriaethol ynghylch trethu gwarediadau i dirlenwi a thrafodiadau sy’n ymwneud â buddiannau mewn tir. O Ebrill 2018 caiff trethi presennol y DU yn y meysydd hyn – y Dreth Dirlenwi (LfT) a Threth Dir y Dreth Stamp (SDLT) - eu disodli yng Nghymru gan y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDT) a’r Dreth Trafodiadau Tir (LTT). Y rhain fydd y trethi Cymreig cyntaf ers dros 800 o flynyddoedd, a byddant yn cynnig cyfle i ddatblygu trefniadau ar gyfer trethi Cymreig mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu anghenion ein cymunedau a’n busnesau. Ym mis Gorffennaf gosododd Llywodraeth Cymru Fil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, cam arwyddocaol o ran hwyluso’r ffordd ar gyfer datganoli trethi .
I helpu i lywio polisi a strwythur y trethi datganoledig newydd, cyhoeddais ddau ymgynghoriad ym mis Chwefror yn gofyn am safbwyntiau ar y cynigion ar gyfer LTT a LDT. Daeth y ddau ymgynghoriad i ben ym mis Mai ac rwyf wedi ystyried yr ymatebion yn ofalus. Rwyf yn falch o gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar LTT heddiw. Rwyf wedi cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad LDT ar wahân.
Mae’r ymatebion wedi bod o gymorth arbennig wrth dynnu sylw at feysydd lle y bydd yn bwysig cadw cysondeb â’r trefniadau yng ngweddill y DU; a lle bo cyfleoedd i wneud newidiadau i adlewyrchu amgylchiadau ac anghenion Cymru’n well.
Roedd lefel y diddordeb yn yr ymgynghoriad ar LDT yn ardderchog gyda bron 300 o ymatebion yn dod i law i gyd gan gynnwys llawer o gyfraniadau gan arbenigwyr trethi, y diwydiant gwastraff, cyrff amgylcheddol a’r trydydd sector yn ogystal ag arbenigwyr trethi. Rwyf yn ddiolchgar i’r ymatebwyr am rannu eu gwybodaeth a’u profiad o’r trefniadau presennol ar gyfer y Dreth Dirlenwi er mwyn helpu i lywio datblygu LDT.
Hoffwn ymestyn fy niolch hefyd i’r Grŵp Cynghori ar Drethi a Grŵp Arbenigwyr Technegol LTT am y rôl ganolog a fu ganddynt wrth helpu i lywio’r cynigion yn y ddogfen ymgynghori ac wrth sicrhau ymateb da, cynrychioliadol, gan randdeiliaid.
Rwyf yn cydnabod mai un o’r blaenoriaethau allweddol i fyd busnes yw cyfnod pontio llyfn i drethi newydd yn 2018 gan darfu cyn lleied â phosibl ar drethdalwyr. Maes a oedd yn destun pryder arbennig ymhlith ymatebwyr oedd yr effaith ar fusnes pe bai gwahaniaethau sylweddol rhwng cyfraddau’r trethi a godir yng Nghymru a Lloegr, gyda sawl un yn tynnu sylw at y potensial am ‘dwristiaeth wastraff’.
Rwyf yn awyddus i gynnig sefydlogrwydd a sicrwydd i’r diwydiant gwastraff er mwyn iddo fynd ati i gynllunio ei busnes a’i fuddsoddiadau gyda hyder. Cyfrifoldeb Llywodraeth nesaf Cymru fydd pennu cyfraddau’r trethi, ond rwyf yn cydnabod bod cysondeb â Lloegr yn benodol yn bwysig yn y maes hwn.
Rwyf hefyd yn awyddus i ddarparu fframwaith effeithiol ar gyfer cydymffurfio â threthi a’u gorfodi. Byddaf yn cymryd safiad cadarn yn erbyn efadu ac osgoi trethi. Cyhoeddais yn ddiweddar mai Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW) yw ein partner dewisol i fynd ati i sicrhau cydymffurfiaeth ag LDT a’i gorfodi. Bydd yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth bresennol o weithredu safleoedd tirlenwi yng Nghymru sydd gan NRW o fudd sylweddol i weinyddu LDT. Mae Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau a fydd yn rhoi pwerau i ACC ymchwilio i droseddu ym maes trethi datganoledig, os credir ei bod yn briodol gwneud hynny. Gallaf gadarnhau fy mod yn disgwyl, yn ddarostyngedig i hynt y Bil hwnnw, y bydd angen i’r Llywodraeth nesaf ymgynghori’n briodol ar gwmpas a graddfa’r pwerau hyn cyn penderfynu a yw am wneud rheoliadau.
Rwyf hefyd am ddod o hyd i ffyrdd o unioni cydbwysedd y risg fel bod canlyniadau peidio â chydymffurfio’n drech na’r elw i’w wneud o weithgarwch anghyfreithlon ym maes gwastraff. Cafwyd cefnogaeth gref ymhlith ymatebwyr i’r ymgynghoriad o blaid ymestyn y diffiniad o safle tirlenwi i gynnwys gollwng gwastraff yn anghyfreithlon o fewn cwmpas y dreth. Mae’r dull gweithredu hwn yn un o nodweddion allweddol Treth Dirlenwi newydd yr Alban a’i ddiben pennaf yw bod yn ddull atal ariannol. Byddaf yn cadw llygad gofalus ar ddatblygiadau yn yr Alban ac yn ymchwilio ymhellach i’r dewis hwn i weld sut y gellid ei roi ar waith yng Nghymru.
Rwyf wedi cyhoeddi fy mod wedi penderfynu datblygu rheol osgoi yn achos trethi Cymreig mewn perthynas a LTT ac LDT. Yn achos LDT, yn ogystal, rwyf am sicrhau na fydd modd osgoi trethi trwy ddefnydd amhriodol o esemptiadau a rhyddhad a byddaf felly’n ymchwilio ymhellach i’r mater hwn gydag arbenigwyr trethi er mwyn penderfynu sut i fynd ati.
Roedd dros hanner yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn ymatebion mewn perthynas â lles cymunedol a dyfodol y Gronfa Cymunedau Tirlenwi yng Nghymru. Roeddwn yn falch o weld cefnogaeth eang i sut y gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio rhywfaint o Refeniw LDT i wella lles cymunedol.
Mewn ymateb i’r ymgynghoriad byddwn yn ceisio dyrannu cyfran o refeniw LDT i gefnogi mentrau lles cymunedol sydd â chanolbwynt amgylcheddol gan gynnwys prosiectau bioamrywiaeth a phrosiectau lleihau gwastraff. Gellid cyflawni hyn trwy Gynllun Cymunedol LDT (LDT CS).
Byddai’r cynllun hwn yn cyd-fynd â’r nodau llesiant sydd wedi’u sefydlu yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a fydd yn ceisio sicrhau Cymru ffyniannus, iachach a chadarn. Bydd hyn yn cefnogi ymhellach twf swyddi a threchu tlodi sydd wrth wraidd fy egwyddorion trethi.
Caiff manylion y cynllun hwn gan gynnwys sut y caiff ei weinyddu eu llywio mewn trafodaeth â rhanddeiliaid dros y misoedd i ddod. Er hynny, bydd dymuniad i sicrhau bod cymaint o arian â phosibl yn cyrraedd cymunedau yn sail i’r cynllun. Byddaf felly’n edrych yn ofalus iawn ar ddatblygu model syml ac effeithiol.
Bydd fy swyddogion yn parhau i ymgysylltu’n eang ag ystod o randdeiliaid sydd â buddiant ac arbenigwyr trethi er mwyn llywio datblygu LDT er mwyn iddi weithio’n dda i Gymru. Bydd y rhaglen waith hon yn galluogi Llywodraeth nesaf Cymru i gyflwyno deddfwriaeth yn fuan ar ôl Etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai 2016.