Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Mae Deddf Cymru 2014, a gafodd ei phasio gan y Senedd fis Rhagfyr diwethaf, yn nodi pwerau cyllidol newydd i Gymru, gan gynnwys cymhwysedd deddfwriaethol ynghylch trethu trafodiadau sy’n ymwneud â buddiannau mewn tir a gwarediadau i dirlenwi. O Ebrill 2018 caiff trethi presennol y DU yn y meysydd hyn - Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT) a’r Dreth Dirlenwi (LfT) - eu disodli yng Nghymru gan y Dreth Trafodiadau Tir (LTT) a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDT). Y trethi hyn fydd y trethi Cymreig cyntaf ers dros 800 o flynyddoedd, a byddant yn cynnig cyfle i ddatblygu trefniadau ar gyfer trethi Cymreig mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu anghenion ein cymunedau a’n busnesau. Ym mis Gorffennaf gosododd Llywodraeth Cymru Fil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, cam arwyddocaol o ran hwyluso’r ffordd ar gyfer datganoli trethi .
I helpu i lywio polisi a strwythur y trethi datganoledig newydd, cyhoeddais ddau ymgynghoriad ym mis Chwefror yn gofyn am safbwyntiau ar y cynigion ar gyfer LTT ac LDT. Daeth y ddau ymgynghoriad ym mis Mai. Rwyf yn falch o gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar LTT heddiw. Rwyf wedi cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad LDT ar wahân.
Gofynnodd yr ymgynghoriad LTT gwestiynau ynghylch a fyddai’n briodol cadw’r dreth Gymreig newydd yn gyson â’r SDLT bresennol, a hefyd ble y gellid gwneud newidiadau neu welliannau a allai gael effaith gadarnhaol ar Gymru.
Bu i’r papur ymgynghori ailddatgan fy mwriad hefyd i ddatblygu trethi sydd : yn deg i fusnesau ac unigolion; sy’n cynnig sefydlogrwydd a sicrwydd i drethdalwyr; sy’n syml, gyda rheolau clir sy’n ceisio cadw costau cydymffurfio a gweinyddu i’r lleiaf posibl; ac sy’n cefnogi twf a swyddi, gan helpu i drechu tlodi.
Hoffwn ymestyn fy niolch hefyd i’r Grŵp Cynghori ar Drethi a Grŵp Arbenigwyr Technegol LTT am y rôl ganolog a fu ganddynt wrth helpu i lywio’r cynigion yn y ddogfen ymgynghori ac wrth sicrhau ymateb da, cynrychioliadol, gan randdeiliaid.
Neges glir a ddeilliodd o’r ymatebion i’r ymgynghoriad LTT oedd bod cysondeb ag SDLT, lle bo’n briodol, yn ddymunol iawn i drethdalwyr, asiantau, a busnes. I helpu i baratoi ar gyfer deddfwriaeth LTT yn y dyfodol, rwyf yn bwriadu cadw nifer o elfennau allweddol y strwythur SDLT presennol.
Tanlinellodd y mwyafrif o ymatebwyr i’r ymgynghoriad effaith gadarnhaol system ‘cyfradd ymylol’ SDLT, a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer eiddo preswyl yn Rhagfyr 2014. Daeth hyn yn sgil penderfyniad Llywodraeth yr Alban i ddefnyddio system ‘cyfradd ymylol’ ar gyfer Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau. Roedd y newid hwn i’w groesawu ac roedd yn adlewyrchu’n agos y syniadau a ddaeth i’r amlwg ar gyfer diwygio SDLT yma yng Nghymru, gan ddangos grym datganoli i roi effaith i welliannau ehangach ledled y DU. Rwyf eisoes wedi cadarnhau y caiff eiddo preswyl yng Nghymru eu trethu ar sail ymylol o dan LTT.
Câi dull gweithredu presennol SDLT o ran partneriaethau, ymddiriedolaethau a chwmnïau, a rhyddhad ac esemptiadau ei gadw yn fras. Mae’r gymuned fusnes yng Nghymru’n deall y rhain yn dda byddant yn cynnig y cysondeb y mae busnesau’n ei ddymuno. Ymhellach, bydd hefyd yn hybu pontio llyfn ar gyfer y farchnad eiddo, gan alluogi unigolion a busnesau i gynllunio’n hyderus am y dyfodol.
Mater i Lywodraeth nesaf Cymru ei ystyried fydd penderfyniadau ar gyfraddau a bandiau LTT gan gymryd i ystyriaeth y ffactorau economaidd sydd ar waith yn agosach at Ebrill 2018. Rwyf yn nodi i’r ymatebion hyn i’r ymgynghoriad danlinellu’n glir y byddai cyhoeddiad cynnar ar gyfraddau’n cynnig sicrwydd a chymorth i fyd busnes. Bydd angen i Lywodraeth nesaf Cymru helpu gyda hyn wrth ystyried amseriad priodol ei chyhoeddiad.
Mae’r mwyafrif helaeth o bobl yng Nghymru’n talu’r swm gofynnol o dreth yn amserol, a bydd gan Awdurdod Cyllid Cymru rôl bwysig wrth eu helpu yn hyn o beth. Mae cael y trethi’n iawn y tro cyntaf er lles pawb, gan ei bod yn lleihau’r angen i ddiwygio camgymeriadau wedyn ac yn arbed amser a chost. Rwyf yn cydnabod pwysigrwydd sefydlu trefniadau a fydd yn helpu trethdalwyr. Rwyf wedi cyhoeddi gynt mai CThEM yw fy mhartner dewisol i gefnogi casglu LTT, ac rwyf yn ffyddiog y bydd eu cyfraniad yn helpu i sicrhau pontio llyfn adeg cyflwyno LTT ac y bydd yn cynnig cysondeb i’r trethdalwr ac asiantau.
Er mwyn sicrhau uniondeb a thegwch trethi datganoledig, rwyf yn bwriadu i Awdurdod Cyllid newydd Cymru (ACC) allu ymateb yn llym i ddigwyddiadau o efadu ac osgoi trethi. Mae Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) yn darparu i ACC feddu ar y pwerau ymchwilio angenrheidiol i herio ymddygiad annerbyniol yn effeithiol ac yn gadarn. Rwyf yn cadarnhau heddiw ei bod yn fwriad gennyf ddatblygu rheol osgoi trethi mewn perthynas â’r ddwy dreth ddatganoledig, ac i roi eglurder ynghylch atal a mynd i’r afael ag osgoi trethi a sicrwydd ychwanegol yn hynny o beth. Mater i’r Llywodraeth nesaf ei ystyried fydd hyn wrth iddi gyflwyno deddfwriaeth benodol ar gyfer trethi ar ôl yr etholiad nesaf.
Dros y misoedd i ddod, bydd fy swyddogion yn parhau i ymgysylltu’n eang ag ystod o randdeiliaid sydd â buddiant ac arbenigwyr trethi er mwyn llywio datblygu LTT er mwyn iddi weithio’n dda i Gymru i brynwyr tai, adeiladwyr a busnesau yng Nghymru. Byddaf yn ystyried dewisiadau ar sut y gallaf gefnogi hyn trwy wneud ein cenedl yn lle mwy deniadol byth i fyw ynddo ac i sefydlu ac ehangu gweithrediadau busnes. Bydd y rhaglen waith hon yn galluogi Llywodraeth nesaf Cymru i gyflwyno deddfwriaeth yn fuan ar ôl Etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai 2016.