Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Ym mis Mawrth 2015, fe wnes i gomisiynu sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i edrych ar y ddarpariaeth a gynigir gan wasanaethau cerddoriaeth awdurdodau lleol yng Nghymru, gan gynnwys cyfleoedd i ddysgu offerynnau cerdd ar safle’r ysgol. Cyhoeddwyd adroddiad y grŵp ar 2 Gorffennaf 2015.
Rwy’n falch o fod wedi cael y cyfle i ystyried yr argymhellion a wneir yn yr adroddiad. Mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion manwl sy’n rhoi sylw i rai o’r anghysondebau yn y gwasanaethau cerdd a ddarperir ledled Cymru. Mae’n galw am fwy o gydweithio rhwng awdurdodau lleol, er mwyn iddynt ddod ynghyd i gyd-greu modelau darparu newydd. Bydd angen i randdeiliaid – gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, awdurdodau lleol, a Chyngor Celfyddydau Cymru – weithio gyda’i gilydd i benderfynu ar fanylion y rhaglen weithredu ar gyfer rhoi sylw i’r argymhellion hyn.
Mae’r gwaith eisoes wedi dechrau ar o leiaf un o’r argymhellion. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi comisiynu astudiaeth ddichonoldeb i archwilio’r posibiliadau a’r paramedrau ar gyfer sefydlu Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth. Nod y Gwaddol fydd datblygu cyfleoedd i bobl ifanc. Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb yn edrych ar fodelau ar gyfer gwaddol o’r fath, ynghyd â’r adnoddau y bydd eu hangen ar ei gyfer, gan gynnwys y posibiliadau o ran defnyddio tocyn treth wirfoddol.