Leighton Andrews AC, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Ym mis Chwefror cyhoeddwyd Papur Gwyn Diwygio Llywodraeth Leol: Grym i Bobl Leol. Mae’n nodi ein gweledigaeth ar gyfer Llywodraeth Leol yng Nghymru ar sail Cynghorau gweithgar, sy’n mynd ati i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hygyrch o safon uchel â’u cymunedau lleol. Hysbyswyd yr aelodau am yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn mewn datganiad llafar ar 3 Chwefror ac rwyf yn falch o gyhoeddi adroddiad cryno heddiw o’r ymatebion i’r ymgynghoriad.
Yn ystod y cyfnod ymgynghori o ddeuddeg wythnos cynhaliwyd cyfres o 38 o ddigwyddiadau ymgysylltu ag Awdurdodau Lleol a rhanddeiliaid, a fynychwyd gan dros 600 o unigolion. Yn ogystal cynhaliwyd ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus ‘Mae Cynghorau yng Nghymru yn mynd i newid’ yn ystod Chwefror a Mawrth er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn.
Cafwyd 726 o ymatebion i’r ymgynghoriad oddi wrth ystod o randdeiliad ac aelodau’r cyhoedd. Cafwyd 3,166 o ymatebion i “Bôl Piniwn”, a ofynnodd am sylwadau ar faterion allweddol. Ymatebodd pob un o’r 22 o Brif Awdurdodau Lleol i’r ymgynghoriad. Rwyf yn ddiolchgar i bawb a roddodd o’u hamser i gyflwyno sylwadau. Mae’r adroddiad cryno o’r ymatebion wedi cael ei gyhoeddi heddiw ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn pwyso a mesur yr holl sylwadau a ddaeth i law mewn ymateb i’r ymgynghoriad fel rhan o’r gwaith parhaus o lunio cynigion ar gyfer Llywodraeth Leol yng Nghymru. Bydd yr ymatebion yn llywio ail Fil Drafft Llywodraeth Leol, yr wyf yn bwriadu ei gyhoeddi at ddibenion ymgynghori ym mis Tachwedd 2015.
Ar 17 Mehefin, cyhoeddais pa batrwm y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio ar gyfer dyfodol Llywodraeth Leol yng Nghymru (“y map”). Byddwn yn ymgynghori’n ffurfiol ar y map ar y cyd â’r Bil Llywodraeth Leol Drafft yn yr hydref. Yn y cyfamser, fe fyddwn i’n croesawu unrhyw adborth anffurfiol ynglŷn â’r map dros gyfnod yr haf.
Byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau’n cael gwybod am y datblygiadau ar y mater hwn.