Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Ym mis Mawrth 2015, cafodd grŵp gorchwyl a gorffen ei ffurfio a’i gomisiynu i edrych ar y ddarpariaeth a gynigir gan wasanaethau cerdd awdurdodau lleol yng Nghymru, gan gynnwys y ddarpariaeth ar gyfer addysgu plant i chwarae offerynnau cerdd mewn ysgolion.
Mae cerddoriaeth yn rhan hanfodol o’r cwricwlwm ac o addysg ehangach ein plant, ac mae’n rym sy’n gallu eu hysbrydoli a chyfoethogi eu bywydau. Mae pob un o’n pobl ifanc yn haeddu’r cyfle i brofi cerddoriaeth fel rhan o’u bywydau, a rhaid inni sicrhau bod y cyfle hwn yn parhau i’r dyfodol.
Mae’n dda gennyf ddweud bod y grŵp bellach wedi cyhoeddi ei adroddiad, sy’n gwneud nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill. Rhaid nodi bod gennyf ddiddordeb arbennig yn ei argymhelliad ar gyfer sefydlu gwaddol bosibl i ddatblygu cerddoriaeth ar lawr gwlad.
Rhoddir amser i’r holl sefydliadau y mae’r argymhellion hyn yn effeithio arnynt ystyried yr adroddiad a mynegi barn arno, ac o’m rhan i, byddaf yn ymateb yn swyddogol ar ôl gwyliau’r haf.