Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Hoffai Llywodraeth Cymru gydnabod fod Adroddiad Cyffredinol Cyfrifiad 2011 wedi’i gyhoeddi. Dyma yw adroddiad swyddogol a chynhwysfawr Cyfrifiad 2011 ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’n adolygu holl weithrediad y cyfrifiad, o’r camau ymgynghori a chynllunio cynnar, trwy’r gweithgareddau maes a phrosesu data, gan gynnwys dychwelyd yr holiaduron drwy’r post a’r holl addasiadau i symiau’r Cyfrifiad, hyd at gynhyrchu a lledaenu allbynnau a gwerthuso. Mae’n cynnig cryn fanylder ar sut y cafodd y cyfrifiad ei gynnal ar draws Cymru a Lloegr a pha wersi a ddysgwyd at y dyfodol er mwyn cynllunio Cyfrifiad 2021.
Mae Awdurdod Ystadegau’r DU yn gosod yr Adroddiad Cyffredinol gerbron Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi yn unol â Deddf y Cyfrifiad 1920 ac roeddwn i hefyd eisiau sicrhau ei fod yn dod i sylw Aelodau’r Cynulliad. Mae hwn yn adroddiad ar gyfer ddefnyddwyr profiadol ac achlysurol o ddata’r cyfrifiad fel ei gilydd, ond y gobaith yw bod yr adroddiad hefyd o ddefnydd ac yn cynnig gwybodaeth i’r cyhoedd yn gyffredinol.
Dyma linc i’r adroddiad:
http://www.ons.gov.uk/ons/guide-method/census/2011/index.html
Mae fy swyddogion nawr yn gweithio’n agos gyda’r Swyddfa Ystadegol Gwladol wrth iddynt ddatblygu cynlluniau ar gyfer Cyfrifiad 2021 a thu hwnt.