Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig ar 6 Gorffennaf er mwyn nodi bod Bil drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) wedi’i gyhoeddi at ddiben ymgynghori.
Mae’r Bil drafft yn cynnig bod Cod statudol Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn cael ei ddefnyddio ar draws yr ystod oedran 0-25, ar draws asiantaethau ac ar draws lleoliadau addysg. Bwriedir i’r Cod newydd osod gofynion gorfodol o dan rai amgylchiadau a hefyd nodi canllawiau ymarferol ynghylch sut y byddwn yn disgwyl i’r dyletswyddau statudol gael eu cyflawni.
Rwy’n cydnabod pwysigrwydd y Cod o safbwynt gweithredu’r system newydd arfaethedig a hefyd ei bwysigrwydd i unrhyw un sy’n ceisio deall y cynigion deddfwriaethol a gaiff eu hamlinellu yn y Bil drafft. Rwyf hefyd yn awyddus i sicrhau bod modd i’r rhai sy’n ymateb i’r ymgynghoriad ar y Bil drafft fanteisio ar wybodaeth a allai fod o ddefnydd iddynt wrth ffurfio barn ynghylch ei ddarpariaethau a’i effaith ymarferol. Rwyf felly’n hapus iawn i allu cyhoeddi heddiw bod fersiwn ddrafft gychwynnol o God arfaethedig ADY wedi’i chyhoeddi.
Nid ymgynghoriad ar y Cod drafft mohono hyn.
Dogfen ddrafft yw’r ddogfen hon a chaiff ei chyhoeddi er gwybodaeth ac er mwyn ategu’r ymgynghoriad ar y Bil drafft. Rwy’n gobeithio, fodd bynnag, y bydd yn rhoi cipolwg i awdurdodau lleol ac eraill a fydd yn gyfrifol am weithredu’r system newydd arfaethedig o’n bwriadau mewn rhai meysydd allweddol – ac yn arbennig o ran cynnwys Cynllun Datblygu Unigol a’r broses o baratoi cynllun o’r fath.
Hoffwn i’r fersiwn ddrafft gychwynnol hon o’r Cod, a gafodd ei datblygu gyda mewnbwn gan randdeiliaid allweddol, ffurfio sail ar gyfer ymgysylltu parhaus rhwng fy swyddogion ac awdurdodau lleol, gweithwyr proffesiynol ac eraill er mwyn datblygu’r Cod ymhellach. Hoffwn i’r gwaith hwn ddigwydd ar y cyd a sicrhau bod dogfen yn cael ei datblygu y bydd pawb a fydd yn ei dilyn yn ei chefnogi. Rwyf felly wedi gofyn i’m swyddogion sefydlu grŵp datblygu cynnwys a fydd yn gyfrifol am gynllunio ar y cyd a datblygu’r Cod ymhellach, cyn y bydd yn destun ymgynghoriad â’r cyhoedd.
Yn ogystal â’r Cod drafft, rwyf hefyd wedi cyhoeddi heddiw amlinelliad o’r amserlenni posibl ar gyfer gweithredu’r system a gaiff ei hamlinellu yn y Bil drafft. Er nad oes modd rhoi dyddiadau pendant ar hyn o bryd, gan mai Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am wneud penderfyniadau o’r fath, rwy’n gobeithio y bydd modd i’r egwyddorion a’r ffrydiau gwaith allweddol ac arfaethedig, ynghyd â’r amserlenni eang a nodir yn y cynllun gweithredu, ffurfio sail i drafodaethau yn y dyfodol â rhanddeiliaid.
Amlinelliad drafft o’r cynlluniau ar gyfer gweithredu
Mae’r ymgynghoriad sy’n mynd rhagddo ar y Bil drafft, a fydd yn parhau hyd 18 Rhagfyr, yn creu cyfle i ni barhau i gydweithio ag eraill er mwyn mireinio’r dull ymhellach. Er mwyn ategu’r gwaith hwn ymhellach rydym yn bwriadu cynnal nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu ar draws Cymru yn ystod y misoedd nesaf. Yn ogystal â grŵp datblygu cynnwys y Cod, byddwn yn cynnal digwyddiadau ymgynghori ar y Bil drafft ynghyd â digwyddiadau ymgysylltu gyda phlant, pobl ifanc a’u gofalwyr. Byddaf yn cyhoeddi fersiwn o’r ymgynghoriad ar gyfer plant a phobl ifanc ynghyd ag esboniad hawdd ei ddeall o’r Bil drafft a’r cwestiynau ymgynghori yn fuan er mwyn hwyluso’r trafodaethau hyn.