Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Dymunaf hysbysu’r Aelodau bod dwy ddogfen ymgynghori wedi’u cyhoeddi heddiw ar wefan Llywodraeth Cymru, yn gofyn am sylwadau ynghylch gwahanol agweddau o’r polisi sy’n cael ei wneud dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Rwyf am glywed barn y rhai a fydd yn cael eu heffeithio gan y ddeddfwriaeth newydd. Rwy’n awyddus i glywed safbwyntiau’r rhanddeiliaid, ac fe fyddaf yn eu hystyried yn ofalus wrth ddrafftio’r dogfennau terfynol.
Bydd yr Ymgynghoriad ynghylch Cod Ymarfer i Landlordiaid ac Asiantwyr y Sector Tai Rhent Preifat yn rhedeg am 8 wythnos rhwng 27 Mawrth a 22 Mai 2015.
Bydd yr Ymgynghoriad ar Reoliadau Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Gwybodaeth, Cyfnodau a Ffioedd ar gyfer Cofrestru a Thrwyddedu) (Cymru) 2015 yn rhedeg am 6 wythnos rhwng 27 Mawrth a 7 Mai 2015.
Ceir manylion ynghylch sut i ymateb yn y dogfennau ymgynghori sydd ar gael ar lein (yn Saesneg yn unig).