Lesley Griffiths, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Cyhoeddwyd dogfen ymgynghori sy'n ceisio barn am dri offeryn statudol sy'n gysylltiedig â Rhan 2 Deddf Tai (Cymru) 2014 heddiw ar wefan Llywodraeth Cymru.
Fy nod yw casglu barn y rhai hynny yr effeithir arnynt gan y ddeddfwriaeth newydd, ac, yn benodol, y rheoliadau.
Rwy'n awyddus i glywed barn rhanddeiliaid ac fe fyddaf yn ystyried y rhain yn ofalus wrth ddrafftio'r rheoliadau.
Bydd yr ymgynghoriad ar y cynigion hyn yn rhedeg am 6 wythnos hyd at 26 Chwefror 2015. Mae manylion sut i ymateb wedi'u nodi yn y ddogfen ymgynghori.