Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Rwy’n rhoi’r diweddaraf i’r Aelodau ynghylch hynt ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ymestyn yr Ardaloedd Dim Galw Diwahoddiad yng Nghymru.
Nod Ardal Dim Galw Diwahoddiad yw amddiffyn trigolion agored i niwed a lleihau nifer yr achosion o drosedd ar stepen y drws. Rydym yn ceisio cynyddu nifer yr ardaloedd lle nad oes croeso i alwyr stepen y drws. Eu bwriad yw rhoi’r hyder i drigolion a chymunedau lleol ddweud “na” i werthwyr diwahoddiad neu rybuddio masnachwyr twyllodrus a galwyr diwahoddiad bod rhywun yn eu gwylio.
Mae’r ardaloedd hyn yn gofyn am waith partneriaeth agos rhwng nifer o asiantaethau, gan gynnwys yr awdurdod lleol, safonau masnach a’r heddlu, ac maent yn enghraifft dda o sut gall cydweithredu ar draws gwasanaethau cyhoeddus wella bywydau trigolion.
Ym mis Mawrth 2013, sefydlwyd llinell sylfaenol o 38,000 o gartrefi mewn Ardal Dim Galw Diwahoddiad. Ym mis Tachwedd 2013, gwahoddwyd awdurdodau lleol i wneud cais am gyllid i helpu i greu Ardal Dim Galw Diwahoddiad, ar yr amod eu bod eisoes wedi nodi bod angen gwneud hyn yn eu hardal. Cafwyd ymateb gan ddeuddeg awdurdod a chymeradwyodd Llywodraeth Cymru gyllid ar gyfer pob un ohonynt.
Mae data o’r ardaloedd a gafodd gyllid Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2013 yn dangos bod 15,000 yn fwy o gartrefi bellach mewn Ardaloedd ychwanegol a grëwyd drwy’r cyllid hwn.
Byddwn yn gofyn i bob awdurdod lleol am gyfanswm nifer y cartrefi yn yr Ardaloedd hyn, waeth ar ba ddyddiad y cawsant eu sefydlu neu sut y cawsant eu hariannu, ac yn cyhoeddi’r niferoedd fel rhan o Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Lywodraethu a gyhoeddir ym mis Mehefin 2015.
Hyd yn hyn, rydym wedi cael adborth cadarnhaol gan awdurdodau lleol, ond maent yn dweud ei bod yn rhy gynnar i ddweud beth yw effaith y cyllid ychwanegol hwn. Mae’r dystiolaeth gynnar yn awgrymu y bu llai o alwyr a llai o adroddiadau o achosion. Mae trigolion hefyd yn datgan eu bod yn teimlo’n fwy diogel yn eu cartrefi yn gallu ymdrin â galwyr diwahoddiad sy’n torri’r rheolau, ac yn adrodd arnynt.