Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Dymunaf roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad am y targed ar gyfer tai fforddiadwy. Yn 2014 ̶ 15, adroddodd Awdurdodau Lleol fod 2,218 o dai fforddiadwy ychwanegol wedi’u darparu ar draws Cymru. Golyga hynny ein bod wedi darparu cyfanswm o 9,108 o dai fforddiadwy ychwanegol dros bedair blynedd gyntaf y weinyddiaeth hon. Mae hynny’n gyfystyr â 91% o’r targed a osodwyd gennym i ddarparu 10,000 o dai fforddiadwy ychwanegol yn ystod cyfnod y Llywodraeth hon. Mae hwn yn newyddion arbennig ac mae’n dangos bod Llywodraeth Cymru, ynghyd â’r sector tai, wedi ymrwymo i wella’r cyflenwad o dai fforddiadwy a’u bod yn benderfynol o sicrhau bod hynny’n digwydd. Dengys y ffigurau a gyhoeddwyd heddiw ein bod ar y trywydd iawn i gwrdd â’n targed o 10,000.
Er mwyn sicrhau’r canlyniadau cywir i bobl yng Nghymru o ran tai, mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol. Y targed gwreiddiol oedd 7,500 o dai fforddiadwy ychwanegol. Newidiwyd y targed hwnnw i 10,000 yn 2014. Cafodd y Cytundeb sydd gennym gyda Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) ei lunio i gefnogi’r targed uwch a osodwyd, sef darparu 10,000 o dai fforddiadwy. Mae ein perfformiad yn erbyn y targed hwnnw’n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithio’n effeithiol.
Mae angen dybryd am ragor o gartrefi ledled Cymru. Fel y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros Dai, rwyf wedi datgan yn glir iawn bod cynyddu’r cyflenwad o dai sydd ar gael yn flaenoriaeth imi, ac felly hefyd sicrhau bod adeiladu yn arwain at y manteision mwyaf posibl drwy greu swyddi a phrentisiaethau lleol
Mae Llywodraeth Cymru wedi gallu parhau i roi buddsoddiad cyfalaf drwy’r Grant Tai Cymdeithasol a’r Rhaglenni Eiddo Llai er mwyn cefnogi’r gwaith o sicrhau tai fforddiadwy ychwanegol. Bydd hynny’n diwallu amrywiaeth o anghenion. Mae hefyd yn cefnogi’r amcanion ehangach sydd gennym i drechu tlodi a lliniaru effaith y diwygiadau lles.
Mae’r gwaith o ddarparu tai yn dipyn ehangach na darparu tai fforddiadwy yn unig. Mae tai'r farchnad agored yn bwysig o ran gwella’r cyflenwad o gartrefi. Mae darparu tai ar y farchnad agored drwy fentrau megis Cymorth i Brynu – Cymru yn bwysig o safbwynt cynnal y gwaith hwnnw.
Credaf fod mwy o waith eto i’w wneud er mwyn cwrdd â’r galw am dai ledled Cymru. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r sector i sicrhau bod y cyflenwad o dai fforddiadwy yn cynyddu ymhellach a sicrhau bod pobl Cymru yn gallu cael y mathau o gartrefi y mae eu hangen arnynt.