Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae’r datganiad hwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf i aelodau ar ein hymrwymiadau a nodwyd ym Mhennod 7 o’n Rhaglen Lywodraethu, sef Cymunedau mwy Diogel i Bawb.
Llwyddwyd i gyflawni ein hymrwymiad i ariannu 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol (CSOs) ychwanegol cyn yr amserlen arfaethedig yn Hydref 2013. Yn ôl ymchwil Sefydliad y Prifysgolion ar Wyddorau’r Heddlu (UPSI) roedd presenoldeb y CSOs wedi gwneud gwahaniaeth o bwys wrth helpu pobl yng Nghymru i deimlo’n fwy diogel yn eu cymunedau, gyda chanran yr ymatebwyr a oedd wedi gweld CSOs ar batrôl yn cynyddu o 76% yn 2012 i 90% yn 2014.
Mae’r CSOs yn rhan flaenllaw o’u cymunedau, gan ymgysylltu â phobl, darparu sicrwydd a mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol lefel isel. Er enghraifft mae Tîm Plismona Cymdogaeth De Gwynedd wedi gweld gostyngiad o 29% mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol ym Mhwllheli. Yn y De, ymunodd CSOs â’r Ymarferwyr Troseddau Tân i ddarparu presenoldeb gweledol yn yr ardal ac i roi tawelwch meddwl i drigolion lleol. Daeth hyn yn sgil nifer o ddigwyddiadau, gan gynnwys rhai tanau bwriadol bach mewn mannau cymunol mewn blociau o fflatiau. Ymgysylltodd y CSOs â phobl ifanc i’w cynnwys mewn gweithgareddau i’w difyrru, a dosbarthu taflenni gyda negeseuon atal a hynny trwy’r Swyddogion Cyswllt Ysgolion.
Cafodd Deddf Trais yn Erbyn Menywod, Trais Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 y Cydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill. Mae’r ddeddf yn ddarn o ddeddfwriaeth hynod o bwysig. Ei diben cynhwysfawr yw gwella’r ymateb o du’r sector cyhoeddus yng Nghymru i drais ar sail rhywedd, Trais Domestig a Thrais Rhywiol. Un o ddarpariaethau cyntaf y Ddeddf i ddod i rym fydd penodi Cynghorydd Cenedlaethol. Disgwylir i’r person a benodir ddechrau yn ei swydd erbyn yr hydref.
Mae prosiect 10,000 o Fywydau Diogelach yn mynd i’r afael yn benodol ag ymrwymiad allweddol yn y Rhaglen Lywodraethu sef sicrhau bod holl ddarparwyr gwasanaethau a chyrff perthnasol yn gallu adnabod arwyddion trais domestig ac yn gallu rhoi cymorth effeithiol i unigolion sy’n ddioddef trais domestig. Rhwng Ebrill 2011 a Mawrth 2015, roedd dros 14,000 o unigolion o’r farn eu bod yn fwy diogel, neu’n teimlo’n fwy diogel, o ganlyniad i gymorth uniongyrchol gan gyrff arbenigol a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Yn 2014-15, cafwyd ymgyrchoedd mewn perthynas â Gwneud Safiad, Rhuban Gwyn, hysbyseb deledu adeg y Nadolig ac ymgyrch yn ystod mis Chwefror sef ‘Croesi’r Llinell’ a Thargedu Troseddwyr. Mae Four Cymru wedi cael contract i ddatblygu a chynnal y tair ymgyrch hyn ar gyfer 2015-16.
Rydym wedi gwneud camau breision o ran atal plant a phobl ifanc rhag troseddu gyda gostyngiad o 54% yn nifer y rhai a aeth i mewn i’r system cyfiawnder ieuenctid rhwng 2010-11 a 2013-14. Mae nifer y plant a phobl ifanc yn y ddalfa wedi gostwng 57% dros yr un cyfnod. Mae Rhoi Plant a Phobl Ifanc yn Gyntaf, ein cyd-strategaeth â’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, yn dod â gweledigaeth ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru a’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ynghyd i wella gwasanaethau i blant a phobl ifanc o Gymru sydd eisoes yn rhan o’r system cyfiawnder ieuenctid neu sydd mewn risg o fod yn rhan ohoni. Yn 2015-16 mae Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i gadw lefel yr arian yn y Gronfa Atal Troseddau Ieuenctid yn £5 miliwn. Nod y Gronfa hon yw cefnogi prosiectau sy’n cyfrannu at atal troseddu ac aildroseddu gan bobl ifanc.
Mater sy’n ennyn teimladau cryf yw caethwasiaeth. Gwelwyd rhai achosion uchel eu proffil yn y misoedd diwethaf ac mae mynd i’r afael â hyn yn gofyn am gamau gweithredu cydgystlltiedig. Mae’r ymateb yng Nghymru wedi cael ei gryfhau trwy benodi’r Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth i gydgysylltu’r cymorth gorau posibl i rai sydd wedi bod yn destun caethwasiaeth.
Enghraifft o’r cymorth hwn yw darparu rhaglen hyfforddi arbenigol i 50 o Uwch Swyddogion Ymchwilio (SIOs) ac Erlynwyr Gwasanaeth Erlyn y Goron. Enghraifft arall yw datblygu ‘Llwybr Gofal i Oroeswyr’ sy’n dechrau cael ei gyflwyno yn raddol ledled Cymru, ar ôl cael ei dreialu yng Nghaerdydd.
Yn ddiweddar gwelsom yr achos Priodas dan Orfod a gafodd ei wrando ym Merthyr Tydfil ac a arweiniodd at ddedfryd carchar o 16 o flynyddoedd. Mae hyn yn tanlinellu’r ffaith bod y troseddau ‘cudd’ hyn yn digwydd yng Nghymru a bod mwy o waith i’w wneud i sicrhau ein bod yn gallu mynd i’r afael â hwy’n effeithiol, gyda’n partneriaid, a gwneud pobl yn fwy diogel.
Mae cynnydd sylweddol yn dal i gael ei wneud wrth leihau peryglon tân i ddinasyddion, cymunedau a busnesau. Ers i’r cyfrifoldeb dros dân gael ei ddatganoli yn 2004-05, cafwyd gostyngiad o dros 50% yn nifer y tanau, sef gostyngiad o 25% yn nifer y tanau mewn anheddau a gostyngiad o dros 60% yn nifer y tanau bwriadol. Yn ogystal, cafwyd gostyngiad o 20% yn nifer y bobl sydd wedi cael eu hanafu mewn tanau, gostyngiad o bron 40% mewn marwolaethau ac mae’r Gwasanaeth Tân wedi darparu gwiriadau diogelwch mewn cartrefi i bron 600,000 o aelwydydd yng Nghymru.
Trwy Fforwm Cydnerthedd Cymru mae gennym ffordd o ymgysylltu’n uniongyrchol ag uwch swyddogion o’r gwasanaethau brys, yr Awdurdodau Lleol ac asiantaethau eraill i gydweithio er mwyn nodi ac ymateb i risgiau. Enghraifft allweddol o hyn oedd Uwchgynhadledd Sefydliad Cytuniad Gogledd Iwerydd (NATO) a gynhaliwyd yng Nghasnewydd fis Medi diwethaf, pan welwyd un o weithrediadau diogelwch mwyaf y DU erioed. Mae gwaith paratoi ar gyfer y digwyddiad yn adeiladu ar y seilwaith ymateb presennol a’r trefniadau gorchymyn a rheoli yr ydym wedi’u datblygu yma yng Nghymru.
Yn yr hinsawdd sydd ohoni, rydym i gyd yn ymwybodol o amlygrwydd terfysgaeth ac eithafiaeth. Rydym yn cefnogi deddfwriaeth newydd ac arfaethedig gan Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â’r materion hyn trwy bartneriaethau sefydledig er mwyn sicrhau bod rhoi’r ddeddfwriaeth ar waith yn cymryd y sefyllfa ddatganoli yng Nghymru i ystyriaeth. Mae enghreifftiau da o waith cadarnhaol mewn partneriaeth yn digwydd yng Nghymru gan gynnwys digwyddiadau ymwybyddiaeth o wrth-eithafiaeth sydd wedi cael eu cynnal yng Nghaerdydd yn ystod y misoedd diwethaf gyda chanolbwynt arbennig ar fenywod a phobl ifanc. Ond er gwaethaf y gwaith rhagweithiol ac ataliol sy’n digwydd, nid yw Cymru’n imiwn i fygythiadau terfysgaeth ac eithafiaeth. Rwyf wedi cytuno felly i roi arian cyfalaf a refeniw er mwyn sicrhau bod adnoddau ar gael yng nghymru ym maes Cydnerthedd Cenedlaethol ac Arfau Tanio Terfysgwyr Ysbeiliol.
Mae mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau’n dal yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac rydym wedi parhau i fuddsoddi’n sylweddol mewn ystod o gamau gweithredu fel rhan o’n strategaeth deng mlynedd sef “Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed”. Rydym yn cydweithio â Llywodraeth y DU ar y bil sylweddau seicoweithredol newydd sy’n cael ei gynnig a hefyd y drafodaeth ar yr angen i’r Undeb Ewropeaidd fabwysiadu strategaeth newydd ar alcohol.