Rebecca Evans, Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd a Julie James, Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg
Heddiw, mae’r ddau ohonom yn croesawu adolygiad yr Athro Wynne Jones OBE o Ddarpariaeth Ddysgu Colegau Addysg Bellach a Pherthnasedd y Ddarpariaeth honno o ran Cefnogi Busnesau Fferm yng Nghymru. Mae’r adolygiad annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn ystyried yr heriau sy’n wynebu’r diwydiant ac, yn bwysig, y cyfleoedd sydd ar gael iddo.
Mae adolygiad yr Athro Wynne Jones yn gwneud nifer o argymhellion eglur a defnyddiol ynghylch y cyfleoedd posibl ar gyfer cydweithio ac ar gyfer perthnasoedd y gellid eu datblygu rhwng colegau a’r diwydiant ffermio. Rydym wedi derbyn yr holl argymhellion a wneir ganddo yn yr adroddiad; caiff pump ohonynt eu derbyn yn llawn, saith mewn egwyddor, a thri yn rhannol. Mae ein swyddogion wedi llunio cynllun gweithredu i sicrhau bod yr argymhellion hynny’n cael eu gweithredu’n effeithiol ac yn amserol, gan gydweithio’n agos gyda darparwyr addysg bellach a rhanddeiliaid yn y diwydiant.
Bydd gweithredu’r argymhellion yn yr adroddiad o gymorth i ddatblygu a chadw sgiliau angenrheidiol yn y sector sy’n hanfodol i lwyddiant y diwydiant yng Nghymru yn y dyfodol. Mae’r argymhellion yn cyfateb i ddyheadau polisi ehangach Llywodraeth Cymru ac amcanion Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 sy’n darparu’r sail statudol i gydnabod cymwysterau a phrofiad mewn amaethyddiaeth trwy strwythur gyrfaoedd ac iddo chwe gradd.
Bydd diwydiant sy’n ymrwymedig i ddatblygiad personol, broffesiynoldeb, ac arferion modern yn opsiwn deniadol fel gyrfa i ddarpar newydd-ddyfodiaid, a bydd hefyd yn rhoi mwy o foddhad swydd i’r unigolion hynny sydd eisoes yn y diwydiant. Mae’n hanfodol bod myfyrwyr amaethyddol a’r rhai sy’n dymuno ymuno â’r diwydiant yn cofleidio’r cyfleoedd dysgu a datblygu sydd ar gael a’n bod yn cydweithio i sicrhau bod y cyfleoedd hynny’n rhoi’r dechrau gorau posibl i newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant amaethyddiaeth.
Hoffai’r ddau ohonom gofnodi ein diolch diffuant i’r Athro Wynne Jones OBE ac i’r rhai helpodd i oleuo’r gwaith pwysig hwn.