Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru
Rwy’n gwybod y bydd pob Aelod am ymuno â mi wrth fynegi, ar ran pobl Cymru, ein tristwch a’n ffieidd-dod tuag at yr erchyllterau ym Mharis nos Wener. Rydym yn cynnig ein cefnogaeth ac yn mynegi undod â phobl Ffrainc. Rydym hefyd yn sefyll ochr yn ochr â nhw. Mae pobl Paris wedi talu pris mawr am arfer yr hawl i fyw’n rhydd. Mae rhyddid yn un o’r gwerthoedd rydyn ni’n eu rhannu ac mae’n rhaid i bawb ohonom ei amddiffyn – ym mhobman, drwy’r amser.
Rwyf wedi ysgrifennu at Lysgennad Ffrainc i fynegi ein tristwch a’n cefnogaeth i bobl Ffrainc, ac rwyf wedi rhoi copi o’r llythyr hwnnw yn y Llyfrgell. Mae baneri adeiladau Llywodraeth Cymru wedi bod yn cyhwfan ar hanner mast heddiw fel arwydd o’n parch.
Rhan o gymhwysedd Llywodraeth y DU yw diogelwch a chudd-wybodaeth, wrth gwrs. Ddydd Sadwrn, fodd bynnag, fe fûm yn rhan o Gyfarfod Diogelwch Llywodraeth y DU a gafodd ei gadeirio gan y Prif Weinidog – y pwyllgor “Cobra” fel y’i gelwir. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau mewn cysylltiad â Llywodraeth y DU ynghylch diogelwch. Hoffwn gofnodi ein gwerthfawrogiad o waith yr heddlu a’r gwasanaethau diogelwch sy’n gweithio’n ddiflino ddydd ar ôl dydd i amddiffyn pobl ar hyd a lled y wlad.
Wrth gwrs, mae’r Deyrnas Unedig ei hun wedi dioddef terfysgaeth ac rydym yn gwybod yn sicr bod nifer o ymosodiadau eraill wedi’u rhwystro yn y cam cynllunio. Yn y gorffennol, mae pobl wedi’u harestio yng Nghymru ac rydym yn gwybod bod unigolion wedi teithio oddi yma i Syria. Ni allwn fabwysiadu agwedd hunanfodlon am ein milltir sgwâr ein hunain. Dylai pobl barhau i fod yn effro a pheidio ag oedi cyn cysylltu â’r heddlu os oes ganddyn nhw amheuon neu os ydyn nhw am roi gwybod am unrhyw weithgarwch anarferol.