Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Ym mis Mai, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar ganllawiau anstatudol ar gyfer awdurdodau lleol ar addysg ddewisol yn y cartref. Prif ddiben y canllawiau fydd cynorthwyo awdurdodau lleol i gefnogi eu teuluoedd sy’n addysgu yn y cartref a helpu i sicrhau mwy o gysondeb yn y modd mae awdurdodau lleol yn cysylltu â’u cymunedau sy’n addysgu yn y cartref. Bydd y canllawiau yn helpu awdurdodau lleol i ddatblygu a gwella eu gwybodaeth am addysg yn y cartref.
Roeddwn yn falch deall bod yr ymgynghoriad wedi ysgogi nifer sylweddol o ymatebion ynghylch ystod eang o faterion. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a ymatebodd i’r ymgynghoriad. Codwyd rhai pwyntiau pwysig yn yr ymatebion ac mae wedi cymryd mwy o amser na’r disgwyl i’w hystyried yn drylwyr ac i ymgorffori’r newidiadau priodol i’r canllawiau. Y bwriad oedd cyhoeddi’r canllawiau terfynol ym mis Medi ond, am y rhesymau a nodais uchod, caiff y canllawiau eu cyhoeddi bellach y gaeaf hwn.