Mark Drakeford, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae gweithwyr cymorth gofal iechyd yn rhan bwysig o weithlu ein GIG ac maent yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i ddarpariaeth gwasanaethau clinigol ac anghlinigol, wrth weithio mewn ysbytai neu mewn cymunedau lleol.
Yn gynharach yn ystod yr wythnos, yn fy ymateb i'r adolygiad ar Fuddsoddi mewn Addysg i Weithwyr Iechyd Proffesiynol, pwysleisiais bwysigrwydd cynllunio a datblygu'r gweithlu i greu system gofal iechyd ddarbodus. Roedd yr adolygiad yn canolbwyntio ar yr angen i fuddsoddi yng ngweithlu presennol y GIG ac i ddarparu cyfleoedd i bob gweithiwr gofal iechyd ddatblygu'i sgiliau, ei wybodaeth a'i brofiad.
Yn sgil datblygu'r codau ymarfer a darparu cyllid canolog i gefnogi hyfforddiant a datblygiad gweithwyr cymorth gofal iechyd, cytunwyd y dylem ystyried sut y gellid cryfhau eu safonau hyfforddi.
Philippa Ford o Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi sydd wedi arwain y gwaith hyd yn hyn o ddatblygu Fframwaith Datblygu Gyrfa a Sgiliau GIG Cymru ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd.
Mae'r fframwaith yn cael ei wneud fesul cam – mae'r cam cyntaf wedi'i gynllunio i gefnogi gweithwyr cymorth gofal iechyd clinigol a bydd yn gymwys i’r rheini sy’n gweithio mewn swyddi nyrsio, bydwreigiaeth a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd. Mae wedi'i seilio ar safonau a chymwyseddau galwedigaethol cenedlaethol ac mae'n cyflwyno set gyffredin o safonau ar gyfer addysg a hyfforddiant gan gydnabod sgiliau, gwybodaeth a phrofiad unigolion wrth iddynt ddatblygu yn eu rôl.
Bydd y llwybrau addysg hyn yn nodi'r sgiliau a'r wybodaeth a fydd yn sylfaen ar gyfer ymarfer gweithwyr cymorth gofal iechyd. Byddant hefyd yn llwybr i ddilyniant gyrfa, yn ôl eu dymuniad. Bydd hyn yn cael ei ddangos drwy bortffolio o dystiolaeth a dysgu myfyriol, a fydd yn cael eu mesur drwy’r broses arfarnu.
Heddiw, rwy'n lansio’r fframwaith hwn ac rwy’n disgwyl i holl sefydliadau’r GIG roi'r trefniadau hyn ar waith o 1 Ebrill 2016 ymlaen. Bydd gwaith yn parhau ar y cam nesaf. Nod y cam hwn yw cefnogi gweithwyr cymorth gofal iechyd anghlinigol ac mae’n canolbwyntio ar sut y gellir cynnwys gweithwyr cymorth gofal cymdeithasol a gweithwyr cymorth gofal iechyd o dan yr un fframwaith.
Yn ystod y cyfnod hwn o ddatblygu pellach, bydd cyfle gan sefydliadau'r GIG i ganolbwyntio ar ddatblygu’r staff sydd eisoes yn gweithio iddynt cyn i’r fframwaith ddod yn orfodol o 1 Ebrill 2018.