Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Mae'r Datganiad hwn yn rhoi gwybod i'r Aelodau fy mod yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol cyntaf y Gweithgor Asedau Cenedlaethol (GAC) heddiw.
Cafodd y Gweithgor ei sefydlu yn 2010, ac mae'n cynnwys uwch-gynrychiolwyr o gyrff y sector cyhoeddus ar draws ystod o feysydd yng Nghymru. Fe'i ffurfiwyd i ddod ag arweiniad strategol ynghyd er mwyn gwreiddio rheoli asedau cydweithredol ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Ni fu rôl y Gweithgor erioed yn bwysicach o ystyried yr hinsawdd ariannol anodd presennol. Bydd defnyddio asedau presennol y sector cyhoeddus yn bwysig o ran helpu i wynebu'r heriau hyn a helpu i hwyluso darparu gwasanaethau mewn ffordd fwy effeithiol a chydgysylltiedig.
Dylanwadwyd ar waith presennol y Gweithgor gan adroddiad Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru (CCC) (Rheoli Asedau yn y Sector Cyhoeddus) a gyhoeddwyd ym mis Awst 2013. Galwodd y Pwyllgor am fwy o gydweithredu wrth reoli asedau fel cyfangorff integredig fyddai'n rhoi’r gwerth gorau posibl i'r sector cyhoeddus ehangach drwy greu cyfleoedd i gydweithredu.
Mae'r Adroddiad Blynyddol yn amlinellu gwaith y Gweithgor yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2014 – 31 Mawrth 2015, a'r nod yw gwella effeithiolrwydd drwy gydweithredu. Mae'r Gweithgor wedi cynhyrchu a chefnogi'r datblygiad o nifer o ddulliau allweddol i helpu i sicrhau effeithiolrwydd gwell. Mae'r cyflawniadau allweddol yn ystod y flwyddyn yn cynnwys:
- datblygu 'Trosglwyddo Asedau Cymunedol: Canllawiau Arferion Gorau’, sydd wedi'u cynllunio i gefnogi a galluogi sefydliadau i fod yn fwy parod i drosglwyddo asedau cymunedol;
- porthol 'Space Cymru’, sef unig blatfform mynediad cyhoeddus Cymru, sy'n galluogi i'r cyhoedd weld pa eiddo cyhoeddus sydd ar gael i'w brynu neu i'w rentu;
- cyhoeddi'r ‘Cydlynu Ystadau a Phrotocol Trosglwyddo Tir', sef diweddaru'r canllawiau gwreiddiol, a'u hestyn er mwyn cynnwys cydleoli a chydfeddiannu asedau gan gyrff y sector cyhoeddus.
I ddatblygu’r hyn a gyflawnwyd eisoes, rwy hefyd yn cadeirio trafodaeth â’r Gweithgor heddiw yng Nghanolfan Gymunedol Plasnewydd yng Nghaerdydd ynglŷn â rhaglen waith arfaethedig y Gweithgor yn y dyfodol.
Mae Canolfan Gymunedol Plasnewydd wedi mynd trwy’r broses o drosglwyddo asedau cymunedol rhwng Cyngor Sir Caerdydd a YMCA Caerdydd. Yn dilyn cyhoeddi ‘Trosglwyddo Asedau Cymunedol yng Nghymru: Canllawiau Arferion Gorau’ gan y Gweithgor, rwy’n hynod falch i allu ymweld â’r cyfleuster hwn sydd wedi’i drosglwyddo drwy’r broses o drosglwyddo asedau cymunedol. Mae’n cadarnhau’r dull y dylid ei fabwysiadu wrth drosglwyddo asedau, sef un sy’n seiliedig ar gyd-ddealltwriaeth ac sy’n anelu at rymuso’r gymuned.
Mae nifer o enghreifftiau o achosion llwyddiannus o Drosglwyddo Asedau Cymunedol yng Nghymru. Fel rhan o daith flynyddol y gyllideb eleni, cefais gyfle ar 9 Gorffennaf i gwrdd â rhai o’r staff allweddol fu’n ymwneud â dau drosglwyddiad arall o’r fath, yn ogystal â rhai o’r defnyddwyr a wnaeth elwa yn sgil y trosglwyddiadau hynny.
Mae'r broses o Drosglwyddo Asedau Cymunedol yn Nhŷ Carnegie, Pen-y-bont ar Ogwr wedi hwyluso nifer o newidiadau ym Mhen-y-bont ar Ogwr y mae'r gymuned ehangach yn elwa arnynt; darparu lle i gynnal y galw cynyddol am ddigwyddiadau celfyddydol a diwylliannol, yn ogystal â sicrhau hir oes safle sydd o werth treftadaeth i'r dref.
Mae'r broses o Drosglwyddo Asedau Cymunedol yn Sandfields Newydd Aberafan, Port Talbot, wedi darparu cyfleuster yn Heol Dalton sy'n defnyddio buddiannau cymunedol sy'n ymwneud â nifer o faterion allweddol, gan annog mwy o bobl i hyfforddi i wella sgiliau'r gymuned; cymorth TGCh a chyngor ar effeithlonrwydd ynni. Llwyddiant y trosglwyddiad hwn yw ei fod wedi creu targed ar gyfer meithrin cysylltiadau yn y gymuned ac wedi sicrhau cydlyniant ar gyfer amrediad o nodau sy'n ymwneud â datblygu'r gymuned.
Nod Trosglwyddo Asedau Cymunedol yw grymuso’r gymuned: maent yn rhoi cyfle i gymunedau ar draws Cymru ddiogelu asedau eiddo a gwasanaethau lleol a sicrhau y byddant yn cael eu defnyddio yn y tymor hir. Bydd hynny’n dod â manteision economaidd i’r gymuned, yn ail-fuddsoddi incwm yn lleol, yn creu swyddi a sgiliau newydd ac y gwella cydlyniant cymdeithasol.
Hoffwn weld hanesion llwyddiannus fel y rhai ym Mhen-y-bont a Phort Talbot yn cael eu hailadrodd ar draws Cymru. Maent yn dangos yn glir beth yw manteision Trosglwyddo Asedau Cymunedol ac yn cadarnhau sut y dylid mynd ati - meithrin cyd-ddealltwriaeth gan anelu yn y pendraw at rymuso’r gymuned.
Mae’r adroddiad i’w weld ar lein.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.