Rebecca Evans AC, Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Yn dilyn taith lwyddiannus Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio) (Cymru) 2014 trwy’r Cynulliad Cenedlaethol, rwy’n ysgrifennu yn awr i roi’r manylion diweddaraf i chi am y camau nesaf o ran cyflwyno microsglodynnu gorfodol ar gyfer pob ci yng Nghymru.
Mewn Datganiadau Ysgrifenedig blaenorol, nodais ei bod yn annhebygol y byddai microsglodynnu gorfodol mewn grym yng Nghymru erbyn y dyddiad targed, sef 1 Mawrth 2015.
Yn 2012, cynhaliwyd ymgynghoriad ar egwyddorion polisi cyffredinol gosod microsglodion ar bob ci yng Nghymru. Roedd 84% o’r ymatebwyr o blaid gwneud microsglodynnu cŵn yn orfodol. Wrth i’r gwaith fynd rhagddo, mae rhai meysydd polisi penodol wedi cael eu datblygu gyda’r rhanddeiliaid allweddol, ond erbyn hyn mae angen rhoi sylw i agweddau eraill. O ganlyniad rwyf wedi penderfynu cynnal ymgynghoriad arall am wyth wythnos, a hynny cyn gynted ag y bo modd, er mwyn casglu barn ehangach am rai o’r elfennau penodol yr wyf yn cynnig eu cynnwys yn y Rheoliadau. Ym mhlith yr elfennau i’w hystyried y mae‘r trefniadau gorfodi, pwy sy’n gosod y microsglodion, a sut mae cofnodi’r microsglodynnu.
Ar ôl ymgynghori a drafftio’r Rheoliadau arfaethedig, cynigir y bydd Gweinidogion Cymru’n hybsysu’rAelod-wladwriaethau am y Rheoliadau trwy’r Comisiwn Ewropeaidd. Bydd rhaid cynnal cyfnod segur o dri mis o’r dyddiad yr hysbysir y Comisiwn cyn y gellir gosod y Rheoliadau drafft gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
Oherwydd yr ymrwymiadau hyn rydyn yn anelu yn awr i gyflwyno microsglodynnu gorfodol ar gyefer pob ci yng Nghymru yng ngwanwyn 2016, i gyd-fynd â’r dyddiad y cyhoeddwyd y daw microsglodynnu’n orfodol yn Lloegr.
Mae Rheoliadau Microsglodynnu DEFRA wedi cael eu cyflwyno eisoes, a bydd yn orfodol gosod microsglodion ar gŵn yn Lloegr o fis Ebrill 2016 ymlaen. Bydd fy swyddogion i’n parhau i gydweithio’n agos â’u cymheriaid yn Lloegr ar faterion trawsffiniol; caiff cŵn eu symud dros y ffin yn rheolaidd ac rwy’n cydnabod felly ei bod yn hollbwysig cydweithio’n agos. O gofio bod darparwyr gwasanaethau microsglodynnu yn gweithio ar draws ffiniau Cymru a Lloegr, mae gofyn cysoni safonau a chyd-drefnu’n gwaith fel ei fod yn cael ei gynnal yr un pryd ag yn Lloegr.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.