Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Roedd yn bleser gen i heddiw gael cwrdd â Jonathan Taylor, Is-lywydd y DU ym Manc Buddsoddi Ewrop, a hynny ym mhencadlys y Banc yn Lwcsembwrg. Cynhaliwyd trafodaethau cadarnhaol dros ben am sut y gall Cymru elwa ar y Gronfa Buddsoddi Strategol Ewropeaidd. Croesawodd Mr Taylor y cynnydd sylweddol sydd wedi'i wneud yng Nghymru o ran datblygu cyfres o gynlluniau arfaethedig cadarn ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith. O ganlyniad i'r gwaith rydym wedi'i wneud i ddatblygu a hyrwyddo'r cynlluniau arfaethedig hyn, roedd yr Is-lywydd yn ymwybodol iawn o'r ystod eang o gyfleoedd cyllido oedd yn bodoli ledled Cymru, ac yn awyddus i gydweithio arnynt. Mae hyn yn cynnwys gweithio'n agos i ailddatblygu Canolfan Ganser Felindre, deuoli rhannau 5 a 6 o'r A456 a'r Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif. Buom hefyd yn trafod Morlyn Llanw Bae Abertawe a Metro De Cymru, yn ogystal â'r potensial ar gyfer system fuddsoddi a allai weld grwpiau o fenthycwyr yn y sector Tai, Amddiffyn rhag Llifogydd, Trafnidiaeth ac Addysg Bellach yn cyfuno eu hanghenion ariannol.
Yn ogystal ag edrych ar y cyfleoedd ar gyfer denu cyllid o'r Gronfa Buddsoddi Strategol Ewropeaidd i Gymru, buom hefyd yn trafod sut y gallai Cymru elwa orau ar arbenigedd Canolfan Gynghori yr Undeb Ewropeaidd. Croesawodd yr Is-lywydd fy ngwahoddiad i arbenigwyr o'r Ganolfan Cynghori ymweld â Chymru i rannu eu harbenigedd gyda noddwyr prosiectau yma. Bydd yr ymgysylltiad hwn yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo gyda Chanolfan Arbenigedd PPP Ewrop Banc Buddsoddi Ewrop i helpu i gynllunio a darparu nifer o gynlluniau Llywodraeth Cymru a fydd angen cyllid maes o law, gan gynnwys cyllid drwy gyfryngau fel y Gronfa Buddsoddi Strategol Ewropeaidd.
Mae disgwyl i'r Gronfa fod yn gwbl weithredol erbyn mis Medi, ac roedd fy nghysylltiad â Banc Buddsoddi Ewrop heddiw yn gam pwysig i sicrhau bod Cymru yn y sefyllfa orau i gael mynediad at gyllid o'r Gronfa dros y pedair blynedd pan fydd yr offeryn newydd yn weithredol. Roedd yr ymgysylltiad hwn yn adeiladu ar fy nhrafodaethau cynharach gyda'r Comisiwn Ewropeaidd, a gynhaliwyd ym mis Mawrth, ac roedd yn fy ngalluogi i arddangos cynlluniau buddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru a allai fod yn gymwys i gael cyllid drwy'r Gronfa, ac yn wir, drwy’r gyfres ehangach o offerynnau cyllid ym Manc Buddsoddi Ewrop.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pa mor bwysig yw'r cyfle y mae'r Gronfa yn ei gynnig i hybu buddsoddiad y mae mawr ei angen ledled Ewrop, a byddaf yn parhau i weithio'n agos gyda Banc Buddsoddi Ewrop a'r Comisiwn Ewropeaidd i ddadlau o blaid Cymru a buddsoddi mewn cynlluniau yng Nghymru.