Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Ym mis Mai 2014, cyhoeddais ganllawiau statudol i awdurdodau lleol, yn pennu sut y dylent fynd i'r afael â'u Cynlluniau Trafnidaeth Lleol, un o'u dyletswyddau fel a amlinellir yn Neddf Trafnidiaeth 2000 (fel y'i diwygiwyd).
O ganlyniad, ym mis Ionawr 2015, ac yn unol â Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2014, mae naw o Gynlluniau Trafnidiaeth Lleol wedi'u cyflwyno imi i'w cymeradwyo. Dyma'r rhai a gyflwynwyd:
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerdydd
- Y Canolbarth (Ceredigion, Gwynedd (Meirionnydd), Powys)
- Sir Fynwy
- Casnewydd
- Gogledd Cymru (Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd (Arfon a Dwyfor), Sir y Fflint, Wrecsam)
- Cymoedd y De-ddwyrain (Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr, Rhondda Cynon Taf, Torfaen)
- Y de-orllewin (Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Abertawe)
- Bro Morgannwg
Yn unol â'r gofynion deddfwriaethol a bennir yn Neddf Trafnidiaeth (2000) fel y'i diwygiwyd, rwy'n fodlon bod y cynlluniau yn cynnwys polisïau i hyrwyddo ac annog trafnidiaeth ddiogel ac effeithiol. Rwyf hefyd yn fodlon bod y cynlluniau yn cynnwys polisïau i weithredu Strategaeth Trafnidiaeth Cymru, ac rwyf wedi ystyried y canllawiau statudol.
Am y rheswm hwn, rwy'n gallu cymeradwyo'r cynlluniau a gyflwynwyd imi. Dylid nodi nad yw cymeradwyo'r cynlluniau yn golygu cymeradwy'r broses y mae'r awdurdodau lleol wedi'u dilyn, gan gynnwys cydymffurfio â'r dyletswyddau statudol sydd arnynt.