Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Bydd Aelodau am fod yn ymwybodol o'r Cynllun Benthyciad Cyfalaf Cyfleusterau Chwaraeon sydd ar gael i Awdurdodau Lleol yng Nghymru i wella eu cyfleusterau chwaraeon a hamdden.
Bydd y cynllun benthyciadau di-log a gaiff ei lansio heddiw yn cefnogi ymdrechion i ddatblygu a chynnal amgylchedd ffisegol sy'n gwneud hi'n haws ac yn fwy diogel i bobl ddewis bod yn fwy egnïol yn gorfforol. Nod penodol y cynllun yw cynorthwyo trawsnewid i gyfleusterau lleol i greu rhwydwaith cynaliadwy o ddarpariaeth sy'n diwallu anghenion lleol i gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon a hamdden egnïol. Yn ogystal â chefnogi atebion arloesol i ddarparu gwasanaethau mwy effeithiol ac effeithlon, bydd y cynllun yn annog prosiectau sy'n gwneud y defnydd gorau o'r awyr agored a'r amgylchedd naturiol.
Bydd Awdurdodau Lleol yn cael eu gwahodd i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb ar gyfer y cynllun benthyca ar 30 Mawrth 2015.