Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Heddiw, mae'n bleser gen i gyhoeddi'r cylch diweddaraf o brosiectau a fydd yn cael eu cefnogi gan Gronfa Buddsoddi i Arbed Llywodraeth Cymru. Bydd cyfanswm o 10 o brosiectau'n cael cefnogaeth ariannol a fydd werth tua £5 miliwn i gyd. Yn ogystal â chynrychioli buddsoddiadau sylweddol mewn cynlluniau effeithlonrwydd ynni, mae rhai o'r prosiectau'n enghreifftiau o fuddsoddiadau i atal. Mae gan y prosiectau hyn y potensial o effeithio'n sylweddol ar rai meysydd gwariant cyhoeddus a bywydau a lles cymunedau ar hyd a lled y wlad.
Gan gyfrif y prosiectau newydd hyn, mae cyfanswm nifer y prosiectau sy'n cael cefnogaeth wedi cyrraedd dros 130 ac mae cyfanswm gwerth ariannol y prosiectau hynny yn bron £125 miliwn. Ers i'r Gronfa gael ei chyflwyno, mae wedi dod yn ffynhonnell gyllid bwysig i'r sector cyhoeddus. Er mai un o brif amcanion y Gronfa yw cynhyrchu arbedion sy'n rhyddhau arian, mae llawer o'r buddsoddiadau hefyd wedi galluogi i fodelau darparu gwasanaeth arloesol a blaenllaw gael eu datblygu.
Mae'r Gronfa'n cefnogi dau gynllun peilot; y cyntaf yw menter diogelwch tai dan arweiniad Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Bydd tîm bach o swyddogion a fydd yn cynnwys aelodau o'r gwasanaeth iechyd, yr heddlu, y gwasanaeth tân ac achub a llywodraeth leol yn helpu'r henoed a'r rheini sy'n agored i niwed i leihau risgiau iechyd a diogeledd yn eu cartrefi. Mae'r ail brosiect peilot yn cael ei arwain gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Chymdeithas Tai Bron Afon. Bydd y prosiect hwn yn gweithio gyda theuluoedd agored i niwed sydd â phroblemau cymhleth i geisio lleihau ymyraethau statudol drutach. Mae'r ddau brosiect yn enghreifftiau ardderchog o feddwl am y tymor hwy, gan ddatblygu dulliau atal ac integredig tuag at ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus, trwy ddull mwy cydgysylltiedig.
Bydd £280,000 yn cael ei roi i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru er mwyn arwain y fenter diogelwch tai. Bydd natur cydgysylltiedig y prosiect yn galluogi'r gwaith o asesu risgiau iechyd a diogeledd mewn eiddo â'r bwriad o leihau nifer y derbyniadau i ysbytai, nifer yr achosion o salwch a nifer y troseddau. Mae'r fenter hon yn torri tir newydd ac mae ganddi'r potensial i arwain at arbedion a gwelliannau sylweddol o ran ansawdd bywyd llawer o'r dinasyddion hŷn ac agored i niwed mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru.
Bydd £465,000 yn cael ei roi i'r prosiect sy'n cael ei arwain gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Chymdeithas Tai Bron Afon. Mae'r potensial ar gyfer arbedion yn sylweddol a byddwn yn cydweithio'n agos â Thorfaen a Bron Afon i gael yr effaith fwyaf posibl o'r prosiect ac asesu ei addasrwydd i'w fabwysiadu'n ehangach.
Dyma rai o'r prosiectau eraill fydd yn cael cymorth:
- £281,000 i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a fydd yn caniatáu i bob pwmp trwytho meddygol gael ei uwchraddio yn ardal y Bwrdd. Bydd y prosiect hwn yn cynhyrchu arbedion sy'n rhyddhau arian o £228,000 y flwyddyn a bydd hefyd yn lleihau risgiau clinigol;
- £278,000 i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys er mwyn sefydlu Uned Gofal Parhaus i Blant. Bydd hyn yn lleihau'r ddibyniaeth ar staff allanol drud ac yn cynhyrchu arbedion sy'n rhyddhau arian o £309,000 y flwyddyn;
- £1 miliwn i Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn gweithredu system well o gasglu refeniw ac i ddarparu arbedion sy'n rhyddhau arian o £800,000 y flwyddyn;
Mae'r cylch diweddaraf o brosiectau llwyddiannus hefyd yn parhau â'n buddsoddiad mewn mentrau arbed ynni, ac rydym yn cefnogi'r prosiectau canlynol:
- £1.4 miliwn i Gyngor Sir Caerfyrddin er mwyn helpu i ariannu'r gwaith o osod unedau LED i ddisodli 12,000 o unedau golau stryd sodiwm traddodiadol. Yn ogystal â darparu arbedion sy'n rhyddhau arian o tua £400,000 y flwyddyn, mae'r buddsoddiad hefyd yn gwella diogelwch ar y ffyrdd;
- £165,000 i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a fydd yn galluogi iddynt ymgymryd â'r gwaith o newid goleuadau pob gorsaf dân yn y rhanbarth i rai LED;
- £1 miliwn i Brifysgol Caerdydd er mwyn ariannu amrywiaeth o brosiectau effeithlonrwydd ar draws ystad y Brifysgol, gan arwain at leihau allyriadau carbon o 1,100 tunnell y flwyddyn;
- £219,000 i Gyngor Sir Ynys Môn er mwyn gweithredu dau brosiect goleuadau stryd LED, a galluogi iddynt ymgymryd â'r gwaith o newid goleuadau cyfleusterau canolfannau hamdden i rai LED.
Yn ogystal â chyhoeddi'r cynlluniau pwysig newydd hyn, rydw i hefyd heddiw yn gwahodd y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru gyfan i gyflwyno cynigion ar gyfer y cylch Buddsoddi i Arbed nesaf. Mae tua £20 miliwn ar gael yn 2016-17, a bydd rhagor o arian ychwanegol ar gael yn y dyfodol wrth i brosiectau presennol ad-dalu arian i'r gronfa. Mae gen i ddiddordeb penodol mewn denu ceisiadau sy'n cynnig cydweithio nid yn unig ar lefel leol, ond sy'n gweithredu gwelliannau ar lefel genedlaethol a/neu ranbarthol hefyd. Bydd dull cydgysylltiedig o'r fath yn golygu ein bod yn lledaenu arferion da a bod pob rhan o Gymru yn elwa ar yr arloesedd a welwn bob blwyddyn.
Mae'r Gronfa wedi elwa ar nifer o werthusiadau dros y 2 flynedd ddiwethaf, a hoffwn ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Cyllid am eu cefnogaeth barhaus i'r Gronfa yn unol â'u hargymhellion i ddangos sut y gall y gronfa wella'r ffordd y mae'n gweithredu.