Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i’w rhoi i Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ac am ei hymrwymiad i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru.
Cynhaliwyd Diwrnod Rhyngwladol cyntaf y Menywod ym mis Mawrth 1911 pan ddaeth menywod a dynion ynghyd i drafod yr angen i fenywod gael hawliau sylfaenol – yr hawl i bleidleisio, yr hawl i weithio, yr hawl i ddweud eu dweud yn gyhoeddus, a’r hawl i gyflog cyfartal.
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle i hoelio sylw ar y pethau anhygoel sy’n cael eu cyflawni gan nifer o sefydliadau ac unigolion ym mhob cwr o Gymru. Er enghraifft, mae gennym nifer o fenywod sydd wedi llwyddo ym maes chwaraeon, gan gynnwys Tîm Rygbi Menywod Cymru. Roeddwn yn falch o gael croesawu aelodau’r tîm i’r Senedd ar 4 Mawrth.
Er bod cynnydd wedi’i wneud, mae bylchau a rhwystrau difrifol o hyd o ran sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle inni ddathlu’r hyn a gyflawnwyd ond mae hefyd yn fodd i dynnu sylw at y problemau a’r rhwystrau real iawn sy’n wynebu menywod a merched.
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn hoelio sylw ar yr holl bethau sy’n rhwystro menywod rhag cael gwir gydraddoldeb. Maent yn cynnwys y ffaith mai ychydig yn unig o fenywod sydd mewn rolau gwneud penderfyniadau, y diffyg cydraddoldeb o ran rhannu dyletswyddau gofal, trais domestig, a’r modd y mae menywod yn cael eu portreadu yn y cyfryngau.
Rydym ym mynd ati yn ein Rhaglen Lywodraethu ac yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol i nodi pa mor benderfynol yr ydym o greu cymdeithas fwy cyfartal yng Nghymru ac rydym hefyd yn amlinellu’r hyn yr ydym yn ei wneud i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau.
Mae’r camau hynny’n cynnwys mynd i’r afael â stereoteipio ar sail rhyw, mynd i’r afael â gwahanu galwedigaethol, a hyrwyddo cyflog cyfartal, yn ogystal â rhoi cymorth i fenywod fedru dilyn gyrfa o’u dewis. Gan fod llawer o fenywod yn dioddef tlodi oherwydd eu sefyllfa yn y gweithle ac yn y cartref, rydym wedi ymrwymo hefyd i fynd i’r afael â thlodi a’i drin yn fater rhyw benodol sy’n effeithio ar ddynion a menywod mewn ffyrdd gwahanol.
Yn fy marn i, mae’n heconomi ar ei chryfaf pan fydd pawb yn cael cyfle i gyfrannu. Rhaid inni helpu rhieni i sicrhau cydbwysedd rhwng eu bywydau gwaith a’u bywydau teuluol, a mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n cyfyngu ar y rhan y mae menywod yn ei chwarae yn y gweithle. Mae’n Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn amlinellu’r hyn yr ydym yn ei wneud i helpu menywod a merched i fanteisio ar addysg, hyfforddiant a chyflogaeth ac i gyflawni ac anelu’n uchel yn y meysydd hynny. Mae’n nodi hefyd yr hyn yr ydym yn ei wneud i fynd i’r afael â stereoteipio a sail rhyw ac i alluogi menywod i ddilyn gyrfaoedd o’u dewis.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru gynnal digwyddiadau ledled Cymru i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Mae angen inni sicrhau ein bod yn cyrraedd ac yn grymuso menywod cyffredin yng Nghymru. Gyda’r rhwydwaith hwn – sydd â dros 500 o aelodau – gallwn fod yn sicr ein bod yn gwneud hynny.
Y thema a ddewiswyd gennym ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2015 yng Nghymru yw Cefnogi Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus. Mae mwy o fenywod nag o ddynion yng Nghymru ac mae’n rhaid i fenywod gael eu cynrychioli’n well mewn swyddi pwerus a dylanwadol ym mywyd Cymru.
Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd ar 8 Mawrth, bydd Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru yn cynnal digwyddiad i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn y De. O 7 Mawrth ymlaen, bydd yn cefnogi wythnos o ddathliadau yng Ngŵyl Menywod Sir Benfro.
Yn Aberystwyth, bydd yn helpu Merched y Wawr i drefnu sawl digwyddiad, ac yn y Gogledd, bydd yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yng Nghaergybi ar 14 Mawrth.
Hoffwn hefyd gydnabod y gwaith y mae’n Llywydd, y Fonesig Rosemary Butler, wedi’i wneud ar Fenywod mewn Bywyd Cyhoeddus. Bydd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, ac yn eu plith bydd panel a fydd yn cynnwys dynion yn unig ac a fydd yn hoelio sylw ar yr angen i ddynion hefyd gefnogi cydraddoldeb rhwng y rhywiau.
Bydd y digwyddiadau hyn yn ategu’r gwaith sy’n mynd rhagddo eisoes i ennyn diddordeb menywod mewn bywyd cyhoeddus ac i’w hannog i gymryd rhan ynddo. Rydym yn gweithio i sicrhau bod mwy o fenywod ar Fyrddau’r Sector Cyhoeddus yng Nghymru. O ran Cyrff Cynghori a Noddir gan Lywodraeth Cymru, rydym wedi gweld cynnydd yng nghanran y menywod sy’n aelodau ohonynt, a hynny o 32% ym mis Ebrill 2012 i 50% ym mis Ionawr 2015. Yn achos Cyrff Gweithredol a Noddir, mae canran y menywod wedi codi o 35% ym mis Ebrill 2012 i 38% ym mis Ionawr 2015.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ei hun, byddaf yn mynd i gêm bêl-droed Clwb
Pêl-droed Menywod Wrecsam. Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod yr hyn y mae menywod Cymru yn ei gyflawni ym myd y campau a’n bod yn cydnabod hefyd yr esiampl gadarnhaol y maent yn ei rhoi i eraill. Mae hynny’r un mor wir ar lefel y Bwrdd ag ydyw ar y cae.
Yn dilyn yr astudiaeth achos lwyddiannus ar Chwaraeon Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2012, mae’n dda gennyf gyhoeddi y byddwn, yn y man, yn cyhoeddi diweddariad o’r astudiaeth honno a fydd, unwaith eto, yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy fod yn benderfynol a thrwy fod yn ymrwymedig i amrywiaeth ar Fyrddau.
Rwyf yn edrych ymlaen at 23 Mawrth pan fyddwn yn croesawu’r grŵp cyntaf a fydd yn cymryd rhan yn ein rhaglen beilot i helpu pobl o grwpiau a dangynrychiolir i gysgodi Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd. Gall rhaglenni fel hyn wneud gwahaniaeth o ran amrywiaeth yr ymgeiswyr am benodiadau cyhoeddus yng Nghymru.
Mae’r gwaith rhagweithiol yr ydym yn ei wneud i dargedu menywod a phobl o grwpiau eraill a dangynrychiolir er mwyn eu hannog i ymgeisio am swyddi cyhoeddus yn enghraifft glir o’r camau pendant y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd er mwyn creu cymdeithas fwy cyfartal yng Nghymru.
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn adeg i ystyried y cynnydd a wnaed hyd yma, i alw am newid ac i ddathlu gweithredoedd dewr a phenderfynol menywod cyffredin sydd wedi chwarae rhan anghyffredin yn hanes eu gwledydd a’u cymunedau.
Mae angen inni hefyd ystyried beth mwy sydd angen ei wneud a chofio’r llu o fenywod nad ydynt yn cael eu clywed ac sy’n parhau i gael eu hatal rhag cyrraedd eu llawn botensial.
Rwyf am annog pawb i gefnogi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ac i gofio, er bod y diwrnod ei hun yn cael ei ddathlu ar 8 Mawrth, ei fod yn bwysig am gymaint mwy nag un diwrnod yn unig.