Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y rôl bwysig sydd gan Seicolegwyr Addysg i'w chwarae i fynd i'r afael â'r heriau y mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu mewn addysg yng Nghymru. Mae eu gwaith yn helpu i gefnogi lles rhai o'n dysgwyr mwyaf agored i niwed ac i wella eu cyfleoedd dysgu.
Bydd rôl seicolegwyr addysg mor hanfodol i'r system ddeddfwriaethol yr ydym yn ei chynnig ar gyfer cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol ag y mae i'r system gyfredol. Mae'n hanfodol felly fod awdurdodau lleol ledled Cymru yn gallu parhau i gael gwasanaeth gan Seicolegwyr Addysg sydd wedi cael eu hyfforddi yng nghyd-destun addysg yng Nghymru.
Unig ddarparwr y Rhaglen Doethuriaeth mewn Seicoleg Addysgol (DEdPsy) yng Nghymru ar hyn o bryd yw Prifysgol Caerdydd. Yn dilyn trafodaethau helaeth â Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a Phrifysgol Caerdydd, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ariannu darpariaeth y rhaglen Doethuriaeth mewn Seicoleg Addysgol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bydd hyn yn sicrhau bod modd i'r hyfforddiant barhau ar gyfer seicolegwyr addysg yng Nghymru ar gyfer y tair blynedd nesaf, ac mae'n bosibl y caiff y trefniant hwn ei ymestyn am ddwy flynedd arall hefyd. O ganlyniad, bydd o leiaf tri cohort newydd o hyfforddeion arfaethedig yn dechrau ar y rhaglen Doethuriaeth mewn Seicoleg Addysg o fis Medi 2015-16.
Rydym yn dal i ystyried sut y bydd rhaglenni gwasanaethau arbenigol a hyfforddiant proffesiynol yn cael eu cyflenwi yng Nghymru yn y dyfodol. Bydd fy swyddogion i'n parhau i weithio gyda Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i ddod o hyd i fodel cynaliadwy ar gyfer darparu seicolegwyr addysg ar gyfer y tymor hwy yng Nghymru.