Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Dechrau’n Deg yw rhaglen flaenllaw Llywodraeth Cymru ar gyfer plant yn eu blynyddoedd cynnar a’u teuluoedd; mae’n gwneud cyfraniad hollbwysig i’n hagenda trechu tlodi. Pan gyhoeddon ni ein Rhaglen Lywodraethu, fe wnaethon ni Dechrau’n Deg yn flaenoriaeth ac yn un o’r pum prif ymrwymiad a adwaenir fel ‘Pump am Ddyfodol Tecach’.
Yn 2010 fe ymrwymon ni i ddyblu maint Dechrau’n deg fel bod 36,000 o blant yn gallu manteisio ar y rhaglen erbyn 2016.
Rwy’n falch o gyhoeddi bod ein data diweddaraf yn dangos inni gyrraedd ein targed flwyddyn yn gynnar.
Y bore yma, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bwletin ystadegol blynyddol am Dechrau’n Deg; mae’n dangos bod dros 37,000 o blant wedi elwa ar y rhaglen yn 2014-15. Mae hwn yn gynnydd o 20% o gymharu â’r llynedd.
Mae’r elfen ymwelwyr iechyd o’r rhaglen yn parhau i ddarparu gwasanaeth dwys i blant a’u teuluoedd. Yn ôl y data, llwyddodd ymwelwyr iechyd Dechrau’n Deg i weld y plant sydd ar eu llwyth achosion yn amlach yn 2014-15 o gymharu â’r flwyddyn cynt.
Mae’r data hefyd yn dangos bod Dechrau’n Deg yn cael effaith ehangach. Er enghraifft, os yw plant yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg, maent yn fwy tebygol o fod ar gofrestr ysgol yn 3 oed. Yn 2014-15, roedd dros 90% o’r plant 3 oed yn yr ardaloedd Dechrau’n Deg wedi’u cofrestru mewn ysgolion. Mae’r ganran hon ychydig yn uwch na ffigur y llynedd. Ac yn bwysicach byth, mae bum pwynt canran yn uwch na chyfradd cofrestru’r plant sy’n byw tu allan i ardaloedd Dechrau’n Deg.
Calonogol hefyd yw gweld ein bod yn llwyddo i ddylanwadu ar iechyd y plant sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig. Roedd dros 80% o’r plant oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg yn 2013/14 wedi’u himiwneiddio’n llawn erbyn eu 4 oed, ac mae hyn hefyd yn welliant o gymharu a’r llynedd.
Rhaid inni fod yn hyderus bod y rhaglen yn gwneud gwahaniaeth, ac mae’r gwerthusiadau o Dechrau’n Deg yn dangos yn glir ei bod yn llesol.
Ers blynyddoedd, mae penaethiaid ac athrawon ysgolion cynradd wedi bod yn dweud wrthym eu bod yn gallu adnabod pa blant sydd wedi cael cymorth Dechrau’n Deg, am eu bod yn fwy parod am yr ysgol. Dywedant nad oedd hyn yn wir am blant o gefndir tebyg yn y gorffennol.
Wrth i’r rhaglen ennill ei phlwyf ac aeddfedu, mae’r plant cyntaf a fanteisiodd ar Dechrau’n Deg wedi symud ymlaen i’r ysgol uwchradd, a’r un yw’r neges gan eu hathrawon yno – mae’r plant hyn yn barod am yr heriau sydd o’u blaenau.
Nod Dechrau’n Deg yw rhoi gwell cychwyn i blant, a rhoi iddynt gyfle tecach mewn bywyd; cyfle na fyddent wedi’i gael fel arall. Yn wir, mae Dechrau’n Deg yn creu cyfleoedd i blant a’u teuluoedd. Yn y cyfnod heriol sydd ohoni, mae hyn yn bwysicach nag erioed.
Erbyn hyn, mae nifer cynyddol o blant yn gallu cael llawer gwell cyfleoedd – cyfleoedd na fyddent yn bodoli heb y rhaglen hon. Ac wrth i blant a’u teuluoedd fanteisio ar y cyfleoedd hyn, mae eu rhagolygon bywyd yn gwella hefyd.