Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Fis Tachwedd diwethaf, lansiais ail ymgynghoriad ynghylch cynllun pensiwn newydd i ddiffoddwyr tân, a fyddai’n dod i rym ar 1 Ebrill eleni. Mae’r ymgynghoriad hwnnw bellach wedi dod i ben ac rwyf yn falch o gyhoeddi fy mhenderfyniad ar ffurf y cynllun.
Mae Deddf Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus 2013 yn datgan mai’r oed ymddeol arferol ar gyfer y rhan fwyaf o weithwyr sector cyhoeddus yw 65 ac mai’r oed ymddeol arferol ar gyfer diffoddwyr tân, swyddogion heddlu ac aelodau o’r Lluoedd Arfog yw 60. Mae’n rheidrwydd arnaf i weithredu cynllun sy’n cydymffurfio â’r gofyniad hwn, ac mae hynny’n golygu y bydd yn rhaid i ddiffoddwyr tân weithio tan eu bod yn 60 er mwyn hawlio pensiwn llawn. Gall y rheini sy’n dymuno neu sydd angen ymddeol yn gynnar yn dal yn gallu hawlio pensiwn o’r adeg pan fyddan nhw’n 55 oed ymlaen, ond ar lefel is.
Fodd bynnag, mae rhesymau da dros drin diffoddwyr tân fel achos arbennig. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o gategorïau eraill o weithwyr y sector cyhoeddus, maen nhw’n gorfod dilyn safonau ffitrwydd caeth iawn. Yn anochel bydd nifer o ddiffoddwyr tân hŷn yn ei chael hi’n anodd cyrraedd y safonau hyn, ac mae mynnu eu bod yn gweithio tan eu bod yn 60 yn peri risg go iawn na fyddan nhw’n gallu gwneud hynny. Gallai hyn olygu eu bod yn colli eu swyddi ond yn methu hawlio eu pensiynau, neu fod eu pensiynau’n lleihau’n sylweddol. Achosodd y materion hyn wedi anghydfod diwydiannol hir gydag Undeb y Brigadau Tân. Rwy’n cydymdeimlo â’r pryderon hyn i raddau. Fodd bynnag, mae eu hunion effaith yn dibynnu ar amgylchiadau a hanes gyrfa unigolion. Felly roedd angen i mi ymgynghori’n fanwl ynghylch y materion hyn.
Fe ymgynghorais ynghylch dau gynnig. Byddai'r cyntaf yn adlewyrchu’r cynllun a fydd yn cael ei weithredu yn Lloegr. Byddai hwn yn golygu bod pensiynau’r rheini a fyddai’n dymuno ymddeol yn 55 oed yn disgyn tua 21%. Byddai’r ail yn cynnig telerau ymddeoliad cynnar gwell – gyda gostyngiad o ddim ond 9% yn 55 oed. Byddai hyn yn gost-niwtral gan y byddai’n cael ei gydbwyso gan gyfradd ychydig yn is o ran croniadau pensiwn diffoddwyr tân bob blwyddyn. Roeddwn yn falch bod yr ail gynnig hwn wedi arwain at benderfyniad Undeb y Brigadau Tân i ohirio eu streic yng Nghymru. Mae Llywodraeth yr Alban wedi cynnig rhywbeth yn debyg i ddiffoddwyr tân yn y fan honno.
Hoffwn ddiolch i’r nifer fawr o ddiffoddwyr tân a’u cynrychiolwyr a ymatebodd i’m hymgynghoriad. Roedden nhw’n ffafrio’r ail gynnig yn glir, a hynny’n gyffredinol am ei fod yn adlewyrchu gofynion corfforol y swydd yn well.
Rydw i o’r un farn â nhw. All hi ddim bod yn iawn disgwyl i ddiffoddwyr tân weithio y tu hwnt i oed pan fydd nifer ohonyn nhw ddim yn ddigon ffit i wneud hynny, na’u cosbi am effeithiau heneiddio nad oes modd eu hosgoi. Byddai gwneud hynny’n annheg â’r diffoddwyr tân, yn ogystal ag â’r dinasyddion a’r cymunedau y maen nhw’n eu diogelu.
Rydw i felly wedi penderfynu gweithredu’r ail gynnig fel nodir ef uchod, gan gynnig telerau ymddeoliad cynnar gwell i ddiffoddwyr tân Cymru. Fy nod yw llunio’r rheoliadau iddo ddod i rym erbyn dechrau mis Mawrth. Mae’r rhain yn amodol ar y weithdrefn negyddol yn unig, ond mae pwysigrwydd y mater hwn yn golygu ei bod hi’n bwysig i’r Cynulliad fod yn ymwybodol o’m penderfyniad. Byddaf yn ysgrifennu at yr Awdurdodau Tân ac Achub ac at gynrychiolwyr y diffoddwyr tân yn nodi telerau’r cynllun yn fanylach.
Fe gynhaliais ymgynghoriad hefyd ynghylch materion manylach megis cyfraddau cyfraniadau cyflogwyr a llywodraethu’r Cynllun. Cefais ychydig o sylwadau ar y materion hyn. Ni fydd y cynigion a weithredir yn wahanol iawn i’r rheini a nodwyd yn yr ymgynghoriad.
Yn y tymor hirach, mae rôl y Gwasanaeth Tân yn newid. Yn fwyfwy, mae’n golygu atal tanau a gwella diogelwch tân, yn hytrach na dim ond ymateb i danau a digwyddiadau eraill. Mae gan y Gwasanaeth enw da yn y maes hwn - ond mae’n golygu bod rôl diffoddwr tân nodweddiadol yn newid hefyd. Rwy’n disgwyl i’r Awdurdodau Tân ac Achub adlewyrchu hyn, a rheoli a datblygu’r gweithlu i wynebu’r heriau newydd hyn. Byddaf yn rhoi fy nisgwyliadau manwl mewn Fframwaith Cenedlaethol newydd ar gyfer y Gwasanaethau Tân ac Achub yn nes ymlaen eleni, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Gwasanaeth Tân a diffoddwyr tân wrth ei ddatblygu.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.