Leighton Andrews AC, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Heddiw rwyf wedi cyhoeddi’r pumed adroddiad ar weithgareddau’r Awdurdodau Tân ac Achub o dan y Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub o 2012 Ymlaen. Mae’n ymdrin â’r cyfnod rhwng mis Ebrill 2013 a mis Mawrth 2015.
Mae’r adroddiad yn crynhoi gwybodaeth ynghylch gweithgarwch yr Awdurdodau Tân ac Achub ar draws tair thema allweddol (cydweithredu, effeithlonrwydd ac arloesi). Mae’n dod i’r casgliad bod y tri Awdurdod Tân ac Achub wedi gweithredu gan fwyaf yn unol â’r Fframwaith.
Mae’r adroddiad hwn yn cyd-fynd â’m hymgynghoriad, sy’n cychwyn heddiw, ar Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub newydd a ddaw i rym o 2016 ymlaen. Mae’n disgrifio’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl gan yr Awdurdodau Tân ac Achub ac yn gosod sylfaen i adeiladu arno a hybu gwelliant, effeithlonrwydd ac arloesedd.
Mae’r ymgynghoriad yn amlinellu gweledigaeth a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Awdurdodau Tân ac Achub yng nghyd-destun y newid yn yr amgylchedd y maent yn gweithredu ynddo. Mae pwysau difrifol ar gyllid cyhoeddus yn y tymor canolig i’r tymor hir yn gofyn am ymdrech o’r newydd i sicrhau bod y Gwasanaethau Tân ac Achub mor effeithlon â phosibl, gan gynnal gwasanaethau ymateb ac atal effeithiol ar gyfer ein cymunedau ar yr un pryd.
Mae gallu ac arbenigedd yr Awdurdodau Tân ac Achub wedi cyfrannu at ostyngiad sylweddol a pharhaus yn nifer yr achosion o danau yng Nghymru a’u difrifoldeb. Fodd bynnag, mae’r un llwyddiant yn golygu bod rôl y gwasanaeth yn newid. Rwy’n cydnabod bod angen i Awdurdodau Tân ac Achub gadw lefelau staffio priodol i’w galluogi i ymateb yn effeithiol i achosion tân brys a gwrthdrawiadau traffig ffordd. Ond mae modd defnyddio’r capasiti sy’n bodoli yn sgil cadw’r lefelau ymateb hyn i wella cydweithredu a gwella diogelwch ac atal tanau, a dylid gwneud hynny. Nid yw bellach yn briodol gweld y gwasanaeth dim ond fel ffordd o ymateb a diffodd tanau pan fyddant yn codi, er bod hynny’n parhau’n hanfodol wrth gwrs. Mae’r fframwaith drafft yn canolbwyntio ar y thema o ehangu gweithgareddau’r Awdurdodau Tân ac Achub i gefnogi’r sector cyhoeddus ehangach ac, yn sgil hynny, y cymunedau a’r unigolion eu hunain.
Rwy’n edrych ymlaen at dderbyn ystod eang o ymatebion i’r ymgynghoriad hwn.