Jane Hutt, Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Heddiw rwyf yn falch o gyhoeddi bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi cytuno ‘o ran egwyddor’ ar raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru 2014-2020 sy’n werth €100 miliwn (ERDF €75m). Disgwylir cymeradwyaeth ffurfiol yn yr wythnosau nesaf.
Mae’n dilyn gwaith WEFO i ddatblygu’r rhaglen â phartneriaid o Iwerddon a Chymru, gan gynnwys Cynulliad Rhanbarthol y De ac Adran Gwariant Cyhoeddus a Diwygio Iwerddon, a negodiadau helaeth â’r Comisiwn Ewropeaidd.
A hithau’n cysylltu arfordir gorllewinol Cymru â de-ddwyrain Iwerddon, bydd y rhaglen newydd yn cynnig cyfleoedd sylweddol i randdeiliaid gydweithio a bydd yn helpu i gryfhau cysylltiadau economaidd o bob tu i Fôr Iwerddon.
Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar y meysydd datblygu canlynol:
- Arloesi trawsffiniol;
- Y ffordd y mae Môr Iwerddon a Chymunedau Arfordirol yn addasu i Newid yn yr Hinsawdd; ac
- Adnoddau Diwylliannol a Naturiol, gyda chanolbwynt ar dwristiaeth.
O gofio natur forol y ffin rhwng Iwerddon a Chymru, bydd y manteision a all ddeillio o Fôr Iwerddon yn ganolbwynt ar gyfer buddsoddiadau’r rhaglen.
Bydd y rhaglen newydd yn adeiladu ar yr hyn sydd wedi’i gyflawni hyd yn hyn, lle bu rhanddeiliaid yn dathlu 20 mlynedd o gydweithredu rhwng Iwerddon a Chymru trwy gronfeydd yr EU yn Nulyn fis Tachwedd diwethaf.
Mae llwyddiannau yn cynnwys cymorth i fusnesau megis Siwgr a Sbeis [Sugar and Spice], busnes pobi yn Llanrwst sydd wedi ennill gwobrau. Byddaf yn ymweld â’r busnes yfory (22 Ionawr).
WEFO fydd Awdurdod Rheoli’r rhaglen Iwerddon/Cymru newydd a bydd y gwaith paratoi a’r trefniadau cyflawni’n cynnwys cyfansoddiad Pwyllgor Monitro’r Rhaglen a ddaw i ben yn gynnar eleni. Cynhelir rhaglen i lansio’r digwyddiad ar gyfer rhanddeiliaid o Iwerddon a Chymru y Gwanwyn hwn.
Mae rhaglen Iwerddon/Cymru yn un o bum rhaglen Gydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd y bydd Cymru’n cymryd rhan ynddynt yn ystod 2014-2020, a bydd negodiadau â’r Comisiwn Ewropeaidd ar y pedair rhaglen sy'n weddill yn dechrau cyn hir gan y priod Awdurdodau Rheoli arweiniol ar draws rhanbarthau’r UE.
Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar y datblygiadau.