Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Yr wyf yn dymuno diweddaru’r Aelodau'r Cynulliad am y rhaglen Cymunedau am Waith. Heddiw gallaf gadarnhau bod Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru wedi cadarnhau £18 miliwn o gyllid i gynorthwyo unigolion economaidd anweithgar a di-waith hirdymor dros 25 mlwydd oed sydd â rhwystrau cymhleth i gyflogaeth i ail-gysylltu â'r farchnad waith. Mae'r gymeradwyaeth hon, fel rhan o gyfanswm o bron i £30 miliwn o fuddsoddiad sydd wedi derbyn arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan Byd Gwaith Yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn helpu dros 6000 o unigolion, a dyma gam cyntaf y rhaglen dair mlynedd hon o waith sydd i'w wneud ochr yn ochr â gweithgareddau ieuenctid (16-24 mlwydd oed) ategol y byddaf yn ei gyflwyno'n ddiweddarach.
Bydd y rhaglen Cymunedau am Waith, fydd yn gweithredu ochr yn ochr â Cymunedau yn Gyntaf yn darparu cymorth i bobl ddi-waith ddychwelyd i'r gwaith. Mae Cymunedau am Waith hefyd yn cyd-fynd yn agos â Chynllun Gweithredu Trechu Tlodi Llywodraeth Cymru a Strategaeth Tlodi Plant Cymru.
Gyda chefnogaeth cyllid yr UE, mae Cymunedau am Waith yn wasanaeth cynghori, sy'n cydweithio â phobl yn y cymunedau mwyaf difreintiedig, gan gynnwys y 52 o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ledled Cymru fel bod oedolion economaidd anweithgar a di-waith hirdymor sydd â rhwystrau cymhleth i gyflogaeth yn ei chael yn haws i ddod o hyd i waith. Mae'n cyfuno profiad ac arfer gorau o raglenni llwyddiannus eraill fel Yn Awyddus i Weithio a rhaglenni eraill sydd wedi'u cynorthwyo drwy Cymunedau yn Gyntaf, megis Menter Canlyniadau ar y Cyd Cynghorwyr Rhieni a Chyflogwyr, ac Esgyn.
Bydd y rhaglen yn cefnogi amcanion strategol cyffredin Llywodraeth Cymru a Chronfeydd Strwythurol Cronfa Gymdeithasol Ewrop i leihau tlodi. Bydd Cymunedau am Waith yn cysylltu'n broactif â chyfranogwyr sydd bellaf o'r farchnad lafur, sy'n debygol o fod heb lawer o sgiliau a rhwystrau cymhleth eraill, a bydd nifer ohonynt o gartrefi heb waith. Drwy adeiladu ar seilwaith Cymunedau yn Gyntaf byddwn yn adeiladu ar raglen ddibynadwy, gan gyrraedd y rhai hynny sydd angen y cymorth fwyaf. Bydd Cymunedau am Waith yn darparu canllawiau dwys i chwilio am waith, gan sicrhau cydbwysedd rhwng dyheadau y cyfranogwyr a'r galw lleol am weithwyr.
Mae Cymunedau am Waith hefyd yn adeiladu ar arfer da rhaglen Esgyn Llywodraeth Cymru, sydd wedi'i hanelu'n benodol at gynorthwyo unigolion o gartrefi heb waith. Fodd bynnag, er mai dim ond o fewn naw ardal y darperir rhaglen Esgyn, bydd Cymunedau am Waith yn ehangu y cymorth tebyg sydd ar gael i bob un o'r 52 o Glystyrau. Bydd Cymunedau am Waith yn darparu mentoriaid arbenigol penodol i ddarparu'r cymorth dwys y mae ei angen ar y cyfranogwyr hyn. Caiff fy rhaglen ei noddi ar y cyd gan y Ganolfan Byd Gwaith, yng Nghymru, fydd yn cefnogi Cynghorwyr Cyflogaeth i Rieni a Chynghorwyr Cyflogaeth i'r Gymuned sy'n gweithio mewn Clystyrau ledled Cymru.
Hefyd, fel rhan o'r ddarpariaeth sy'n derbyn arian gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop rwy'n datblygu cynnig ar gyfer "Cronfa Arloesi", i gefnogi a threialu syniadau newydd ac arloesol ar gyfer trechu tlodi, o bosib gan sefydliadau sydd ddim yn gweithio yn y maes hwn yn draddodiadol.
Rwyf wedi ymrwymo i barhau i gefnogi'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ac adeiladu ar lwyddiant y rhaglenni sy'n gweithredu eisoes, i sicrhau ein bod yn lledaenu manteision rhain mor eang â phosib, gan wneud y defnydd gorau o gyllid yr UE i helpu i drechu tlodi. Rwyf am i Gymru ddatblygu model o gymorth ar gyfer cyflogaeth sy'n helpu unigolion i helpu i sicrhau eu dyfodol. Bydd hyn yn helpu i leihau tlodi a chefnogi pobl sy'n wynebu heriau yn eu bywydau.
Mae Cymunedau am Waith yn gam pwysig ymlaen i ddarparu cymorth gyda chyflogaeth yn ein cymunedau tlotaf ac yn ymrwymiad sy'n dangos ein cefnogaeth barhaus i'r bobl dlotaf, yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ac mae'n cynnig cyfle gwirioneddol i gefnogi pobl i gyflawni eu dyheadau, ac i osgoi tlodi.