Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Rwy’n ysgrifennu i gyhoeddi fy mwriad i sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Datblygu Gwledig. Pwrpas y grŵp yw datblygu ac argymell cynllun strategol ar gyfer ymwneud â thwf economaidd a llesiant yr Economi Wledig mewn ffordd gynaliadwy..
Bydd hyn yn cynnwys ymchwilio i’r hyn sy’n rhwystro twf ynni adnewyddadwy mewn ardaloedd gwledig (gan gynnwys cyfyngiadau’r grid a storio ynni’n effeithiol) er mwyn darparu swyddi, twf, cyfoeth, gwella llesiant y gymuned, trechu tlodi tanwydd yn ogystal â hybu lles cymunedau yn ardaloedd gwledig Cymru trwy ynni adnewyddadwy a materion cysylltiedig.
Rwyf wedi gofyn I Jeremy Smith, Rheolwr Datblygu Cymru, RWE Innogy i Gadeirio’r Grŵp, ac mae wedi derbyn y gwahoddiad.
Cytunwyd ar aelodau’r Grŵp fel a ganlyn:
Arbenigwr Academaidd Economaidd Peter Midmore
Arbenigwr Materion Cynllunio Edmund Bailey
Undeb Credyd y Gogledd Rina Clarke
Grid – CEW Chris Blake
Coedwigaeth – CONFOR Martin Bishop
Busnesau bach a chanolig - MD Dulas Ltd Phil Horton
OFGEM Rep - Sylwedydd James Veaney
Biomas – Severn Wye Energy Agency Dr Rachel Smith
Cynhelir cyfarfod cyntaf y Grŵp cyn hir.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Byddaf yn hapus i wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau pan fydd y Cynulliad yn ymgynnull eto, os bydd angen.