Leighton Andrews AC, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Heddiw, rwy'n dechrau ymgynghori ar Gyfarwyddiadau Drafft i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru. Caiff y Cyfarwyddiadau eu cyhoeddi ar ôl i Fil Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 gael Cydsyniad Brenhinol, os mai hynny yw dymuniad y Cynulliad, a byddant yn cychwyn adolygiadau'r Comisiwn o drefniadau etholiadol ar gyfer ardaloedd awdurdod lleol arfaethedig yng Nghymru, a gyhoeddais ym mis Mehefin. Mae'r ddau opsiwn sy'n cael eu hystyried ar gyfer y Gogledd wedi'u cynnwys yn y Cyfarwyddiadau Drafft.
Mae'r Cyfarwyddiadau Drafft hyn yn nodi’r materion sy'n rhaid i'r Comisiwn eu hystyried wrth adolygu trefniadau ar gyfer wardiau o fewn yr ardaloedd awdurdod lleol arfaethedig. Mae'r dogfennau ymgynghori sydd ynghlwm yn gofyn am farn rhanddeiliaid ar y materion hyn, gan gynnwys nifer yr aelodau etholedig fesul awdurdod, nodweddion yr ardaloedd a ddylai ddylanwadu ar drefniadau'r wardiau ac enwau'r wardiau.
Fel y cyhoeddais ym mis Mehefin, rwy'n cydnabod y bydd yr awdurdodau unedig newydd hyn yn cwmpasu poblogaethau ac ardaloedd daearyddol mwy. Yn y Cyfarwyddiadau Drafft hyn, rwyf felly wedi cael gwared ar y cap o 75 o gynghorwyr fesul awdurdod lleol a bennir y dylai nifer y cynghorwyr ddim fod yn llai na'r nifer a geir drwy gymhareb cynghorwyr i etholwyr o un cynghorydd i bob 4,000 o etholwyr.
Bydd y Comisiwn yn cael y dasg o gynnig y nifer mwyaf priodol o gynghorwyr fesul ardal awdurdod lleol, gan ystyried nodweddion penodol yr ardal honno, fel dwysedd poblogaeth, daearyddiaeth ac amddifadedd.
Nid yw Cyngor Sir Powys wedi'i gynnwys yn yr adolygiad. Fodd bynnag, y bwriad yw rhoi'r argymhellion ar waith ar gyfer adolygiad etholiadol mwyaf diweddar Powys erbyn etholiadau'r awdurdodau lleol yn 2017. Roedd yr adolygiad yn cynnig lleihau nifer y cynghorwyr o 73 i 64.
Byddem yn croesawu safbwyntiau gan bobl ledled Cymru mewn ymateb i'r ymgynghoriad, ac rwy'n awyddus i glywed gan ystod eang o randdeiliaid.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er gwybodaeth i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.