Mark Drakeford, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Hoffwn ddiolch i’r Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion am ei 43eg adroddiad a nodi ei argymhellion a’i sylwadau. Rhoddodd Llywodraeth Cymru gylch gwaith ynghylch cynnydd priodol ar gyfer y ddau grŵp contractwyr annibynnol yn unig – ymarferwyr meddygol cyffredinol ac ymarferwyr deintyddol cyffredinol. Dyma a ddigwyddodd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon hefyd. Mewn perthynas ag argymhellion y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion ar gyfer 2015-16:
- Yn achos ymarferwyr meddygol cyffredinol, rwyf wedi cytuno i dderbyn yr argymhelliad ynghylch y cynnydd yn nhâl meddygon teulu, net gyda threuliau, o 1% ar gyfer 2015-16. Rwyf wedi penderfynu mai cynnydd cyffredinol meddygon teulu yng Nghymru fydd 1.16% ar gyfer tâl a threuliau, sy’n cyd-fynd â’r cynnydd yn Lloegr.
- Yn achos ymarferwyr deintyddol cyffredinol, wyf wedi cytuno i dderbyn yr argymhelliad ynghylch y cynnydd yn nhâl ymarferwyr deintyddol cyffredinol, net gyda threuliau, o 1%. Ar ôl cymhwyso’r un fformiwla yn fras ag yn 2014-15 i ganiatáu ar gyfer costau practis a threuliau eraill, rwyf wedi penderfynu cynyddu gwerth contractau deintyddol gan 1.34%.
- Yn achos meddygon teulu ar gyflog, rwyf wedi cytuno i gynyddu isafswm ac uchafswm yr ystod cyflog gan 1%.