Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn 2012 roedd fy rhagflaenydd wedi comisiynu grwpiau gorchwyl a gorffen annibynnol i adolygu pum agwedd benodol ar y cwricwlwm. Cafodd canfyddiadau'r grwpiau hyn eu hystyried yn ofalus gan yr Athro Graham Donaldson yn ystod ei adolygiad o'r Cwricwlwm a'r trefniadau asesu yng Nghymru,ac roeddynt yn anhepgor wrth ddatblygu adroddiad Dyfodol Llwyddiannus.

Hoffwn ddiolch i'r cydweithwyr a’r rhanddeiliaid niferus a gyfrannodd at y grwpiau a gwaith y grwpiau hyn. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i gadeiryddion pob grŵp am eu cyfraniadau a'u hadroddiadau cynhwysfawr. Mae'r datganiad hwn yn nodi sut y bydd canlyniadau ac argymhellion yr adolygiadau hyn yn cael eu rhoi ar waith drwy weithredu Dyfodol Llwyddiannus.

Cymraeg ail iaith

Mae Dyfodol Llwyddiannus yn cyflwyno deg argymhelliad sy'n ymwneud â'r Gymraeg yn y cwricwlwm - ac mae'r rhain yn ymateb yn uniongyrchiol i'r argymhellion a wnaed yn adroddiad yr Athro Sioned Davies ar addysg Gymraeg ail iaith, Un iaith i bawb. Cyhoeddais ddatganiad ar 15 Hydref yn amlinellu'r camau y byddwn yn eu cymryd i weithredu'r argymhellion.

TGCh

Bu grŵp annibynnol,dan gadeiryddiaeth Stuart Arthur, Dr Tom Crick a Janet Hayward, yn ystyried dyfodol cyfrifiadureg a TGCh mewn ysgolion yng Nghymru. Roedd adroddiad y grŵp yn amlinellu eu hargymhellion ar gyfer y ffordd ymlaen, gan gynnwys yr angen i TGCh mewn ysgolion  gael ei hailfrandio a'i hailwampio a sicrhau ei bod yn berthnasol i'r presennol ac i'r dyfodol. Pwysleisiodd bwysigrwydd llythrennedd digidol o'r Cyfnod Sylfaen ymlaen, ac argymhellodd y dylai fframwaith llythrennedd digidol gael ei gyflwyno ochr yn ochr â'r fframweithiau Llythrennedd a Rhifedd.

Roedd yr adolygiad hwn yn sail i adroddiad yr Athro Donaldson, sef  Dyfodol Llwyddiannus, sy'n argymell y dylai cymhwysedd digidol fod yn un o'r tri chyfrifoldeb traws-gwricwlaidd.  Rwy'n cytuno'n llwyr bod cymhwysedd digidol yn dod yn fwyfwy pwysig i lwyddiant person ifanc mewn bywyd, ac, ers derbyn argymhellion yr Athro Donaldson, rwy wedi penderfynu sicrhau bod datblygu Fframwaith Cymhwysedd Digidol traws-gwricwlaidd yn cael ei weithredu'n gyflym.

Mae 13  o Ysgolion Arloesi Digidol  eisoes wedi'u pennu i arwain y broses o ddatblygu'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Y nod yw sicrhau bod y Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar gael i ysgolion yng Nghymru o fis Medi 2016, gan helpu ysgolion i sicrhau bod sgiliau digidol yn mynd yn rhan annatod o'r cwricwlwm yn ddidrafferth.  Fel imi nodi yn fy natganiad ar 16 Gorffennaf, bydd Dr Tom Crick yn cynnig cymorth a chyngor i Lywodraeth Cymru ac aelodau perthnasol o rwydwaith yr Ysgolion Arloesi mewn perthynas â datbygu'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol traws-gwricwlaidd.

Bydd cyfrifiadura'n cael ei ddatblygu fel rhan o Faes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg, a bydd argymhellion y grŵp o ran datblygu'r maes pwnc hwn yn sail i'r broses o ddatblygu'r cwricwlwm.

Adolygu'r Celfyddydau mewn Addysg yn Ysgolion Cymru

Cafodd yr adolygiad ei arwain gan yr Athro Dai Smith ac ym mis Mawrth 2014, fe dderbyniais mewn egwyddor, ar y cyd â John Griffiths AC, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon ar y pryd, bob un o'r argymhellion yn adroddiad Y Celfyddydau mewn Addysg yn Ysgolion Cymru.  

Rwy wedi ymrwymo i roi cymorth ariannol i weithredu argymhellion yr Adolygiad o'r Celfyddydau mewn Addysg: £10m dros bum mlynedd, o Ebrill 2015, i fynd â gwaith Cynllun Dysgu Creadigol rhagddo. Bydd hwnnw'n cyfateb i gyllid y Loteri o £10m gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Bydd y Cynllun Dysgu Creadigol yn ategu ac yn cefnogi'r newidiadau sy'n cael eu gwneud i'r cwricwlwm. Yr nod yw gwella cyrhaeddiad drwy greadigrwydd a chynyddu a gwella profiadau a chyfleoedd yn y maes celfyddydau ar gyfer dysgwyr.  

Argymhelliad yr Athro Smith i gynnwys creadigrwydd yn y cwricwlwm yw hanfod un o bedwar diben y cwricwlwm newydd fod ‘plant a phobl ifanc yn datblygu yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith.’ Y Celfyddydau Mynegiannol fydd un o'r chwe Maes Dysgu a Phrofiad, a bydd y sgiliau ehangach, gan gynnwys creadigrwydd ac arloesi, yn cael eu hymgorffori i Feysydd Dysgu a Phrofiad wrth iddynt gael eu datblygu.


Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ysgolion a Gweithgarwch Corfforol

Yn 2013, roedd y Farwnes Tanni Grey-Thompson wedi cadeirio adolygiad o'r Ysgolion a Gweithgarwch Corfforol a gafodd ei sefydlu i ystyried sut i ddatblygu rôl yr ysgolion o ran cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc. Prif argymhelliad y grŵp hwn oedd bod ‘Addysg Gorfforol yn dod yn bwnc craidd yn y cwricwlwm cenedlaethol’. Roedd y grŵp hefyd wedi ystyried a ddylai'r maes hwn gael ei gefnogi gan Fframwaith Llythrennedd Corfforol Cenedlaethol.  

Ym mis Mawrth 2014 lansiais y Rhaglen Llythrennedd Corfforol i Ysgolion (PLPS), sy'n cael ei harwain gan Chwaraeon Cymru, gyda chymorth ariannol o dros £3.2m hyd at fis Mawrth 2016 gan Lywodraeth Cymru. Nod y rhaglen yw cyflwyno amrediad o weithgareddau i annog mwy o blant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn yr ysgol ac yn y gymuned; mae'r adnoddau sydd ar gael yn cael eu hanelu at ysgolion mewn cymunedau difreintiedig.

Mae PLPS yn canolbwyntio ar newid agweddau disgyblion at weithgarwch corfforol er mwyn sicrhau cynnydd mewn llythrennedd corfforol a gweithgarwch corfforol ymhlith plant oedran ysgol yng Nghymru. Amcan hynny yw y byddant wedi gwirioni ar chwaraeon am weddill eu bywydau ac y bydd yn annog ffyrdd iach o fyw.

Fel rhan o'r gwaith hwn, mae Fframwaith Llythrennedd Corfforol wedi'i ddatblygu, a bydd hwnnw ar gael i Ysgolion Arloesi ei ystyried wrth ddatblygu'r cwricwlwm newydd ac yng nghyd-destun sicrhau ei fod yn unol â chyfeiriad Dyfodol Llwyddiannus yn y dyfodol.  

Mae hybu mwy o blant a phobl ifanc i wneud gweithgarwch corfforol yn parhau i fod yn flaenoriaeth strategol allwedol i Lywodraeth Cymru. Bydd gan Addysg Gorfforol rôl o ran cyflawni un o bedwar diben y cwricwlwm newydd fod ‘plant a phobl ifanc yn datblygu yn unigolion iach, hyderus'. Un o'r chwe Maes Dysgu a Phrofiad yn y cwricwlwm newydd fydd Iechyd a Lles (sy'n cynnwys pynciau presennol y cwricwlwm, sef Addysg Gorfforol, ABCh a maeth).


Y Cwricwlwm Cymreig
Bu Dr Elin Jones yn cadeirio'r grŵp a oedd yn edrych ar y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru. Roedd adroddiad y grŵp yn gwneud 12 argymhelliad a oedd yn ymwneud ag ystyried y dimensiwn Cymreig wrth ddatblygu'r cwricwlwm nesaf – ac yn ymwneud â'r cwricwlwm hanes yn arbennig.

Yn adroddiad Dyfodol Llwyddiannus, mae'r Athro Donaldson yn argymell y dylai'r cwricwlwm newydd gael ei seilio ar chwe Maes Dysgu a Phrofiad. Yn unol ag argymhellion y Cwricwlwm Cymreig, mae'n cadarnhau y dylai pob Maes Dysgu a Phrofiad gynnwys dimensiwn Cymreig a phersbectif rhyngwladol, pan fo hynny'n briodol. Mae hynny hefyd yn berthnasol i gymwysterau – y mae rhai ohonynt eisoes wedi'u cymeradwyo ar gyfer cael eu defnyddio yng Nghymru. Cafodd argymhellion y grŵp eu hystyried hefyd wrth ddatblygu gofynion newydd y cymhwyster Safon A Hanes i'w addysgu o fis Medi hwn, ac wrth ddatblygu'r TGAU Hanes newydd i'w addysgu o fis Medi 2016.

Hoffwn ddiolch eto i bob un o'r rhanddeiliaid allweddol sydd wedi cyfrannu at yr adolygiadau pwysig hyn, ac i'r rhai hynny a fydd yn dod â'u sgiliau, eu profiad a'u harbenigedd i'r Grŵp Cynghori Arbenigol ac i Grŵp Strategol y Rhanddeiliaid wrth i'r argymhellion yn adroddiadau “Dyfodol Llwyddiannuss” ac “Addysgu Athrawon Yfory” gael eu gweithredu.

I sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn manteisio i'r eithaf ar argymhellion Dyfodol Llwyddiannus, bydd gofyn inni i gyd gyfranogi a gweithio ar y cyd.  O gofio hynny, ynghyd â'r diwygiadau ym maes addysg a'r Fargen Newydd ar gyfer y Gweithlu Addysg ar ddatblygu proffesiynol parhaus, bydd gennym y gallu proffesiynol i gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru:  Cwricwlwm am Oes.