Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Yn Cymwys am oes, amlinellais bedwar amcan strategol ar gyfer diwygio addysg:
- Gweithlu proffesiynol rhagorol gydag addysgeg gref wedi'i seilio ar ddealltwriaeth o'r hyn sy'n gweithio.
- Cwricwlwm sy’n ddeniadol ac yn atyniadol i blant a phobl ifanc ac sy’n datblygu eu gallu i gymhwyso gwybodaeth a sgiliau yn annibynnol.
- Pobl ifanc yn ennill cymwysterau sy’n cael eu parchu’n genedlaethol ac yn rhyngwladol ac sy’n gweithredu fel pasbort credadwy i’w haddysg a’u cyflogaeth yn y dyfodol.
- Arweinwyr addysg ar bob lefel yn cydweithio mewn system hunan-wella, gan helpu a herio ei gilydd er mwyn codi safonau ym mhob ysgol.
Fel yr amlinellais yn Cwricwlwm i Gymru - cwricwlwm am oes, mae adolygiad Graham Donaldson o'r cwricwlwm a'r trefniadau asesu yng Nghymru Dyfodol Llwyddiannus, ynghyd â’r adolygiad o Addysg a Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon Addysgu Athrawon Yfory a'r ymrwymiad i'r 'Fargen Newydd' ar gyfer y gweithlu addysg, yn darparu'r sylfeini ar gyfer adeiladu system addysg o'r radd flaenaf.
Mae'n dda gennyf gyhoeddi fy mod wedi dwyn ynghyd grŵp o randdeiliaid allweddol fel rhan o'r broses gyffredinol o reoli'r rhaglen ddiwygio er mwyn helpu i sicrhau bod y gwaith o weithredu'r diwygiadau hyn yn effeithiol ac yn cael ei gyfathrebu'n dda. Bydd Grŵp Rhanddeiliaid Strategol Cwricwlwm i Gymru yn darparu her, cymorth a chyngor wrth i ni gydweithio i ddatblygu'r cwricwlwm newydd. Bydd y grŵp hwn yn cwrdd deirgwaith y flwyddyn ac yn cael ei gadeirio gan Steve Davies, Cyfarwyddwr Grŵp Safonau a Gweithlu Ysgolion Llywodraeth Cymru. Gwahoddwyd y sefydliadau isod i ymuno â'r grŵp hwn a gofynnwyd iddynt enwebu un cynrychiolydd.
Cynhaliodd Grŵp Rhanddeiliaid Strategol Cwricwlwm i Gymru ei gyfarfod cyntaf ddoe a chafwyd trafodaeth ddefnyddiol a chynhyrchiol. Bydd nodyn o'r cyfarfod hwn yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru maes o law. Wrth i raglen Cwricwlwm i Gymru fynd rhagddi, byddwn yn ceisio cynnal nifer o ddigwyddiadau ychwanegol ar gyfer rhanddeiliaid a byddwn yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid a'u cynnwys wrth i'r cwricwlwm ddatblygu.
Grŵp Rhanddeiliaid Strategol Cwricwlwm i Gymru - sefydliadau a wahoddwyd:
Cyngor Celfyddydau Cymru
ASCL Cymru
Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru
ATL Cymru
Gyrfa Cymru
Plant yng Nghymru
Comisiynydd Plant Cymru
Prif Swyddog Meddygol, Llywodraeth Cymru
Prif Gynghorydd Gwyddonol, Llywodraeth Cymru
Y Coleg Cydweithredol
Consortia Addysg
Estyn
Fforwm Cymunedau Ffydd
GMB
Llywodraethwyr Cymru
Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon (NAHT)
Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau (NASUWT)
Cynghorydd Cenedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru
Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru
Undeb Cenedlaethol yr Athrawon (NUT)
Prospect
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Cymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg (CYDAG)
Chwaraeon Cymru
Cymdeithas CYSAGau Cymru (WASACRE)
Comisiynydd y Gymraeg
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
UCAC
Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU)
UNSAIN Cymru
Uno'r Undeb
Cyngor Prifysgolion ar gyfer Addysgu Athrawon (UCET) Cymru
Voice the Union
Cyngor Entrepreneuriaeth Llywodraeth Cymru
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
CBAC