Carl Sargeant AC, Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Ar y 1af a’r 2il o Orffennaf, roeddwn yn bresennol yn yr Uwchgynhadledd Fyd-eang ar Newid Hinsawdd yn Lyon, Ffrainc.
Roedd yn Uwchgynhadledd ryngwladol bwysig cyn Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (UNFCCC) ym Mharis ym mis Rhagfyr 2015. Daeth â thaleithiau a llywodraethau rhanbarthol at ei gilydd, ynghyd â chynrychiolwyr o ddinasoedd, llywodraeth leol a chymdeithas wâr ledled y byd.
Yn yr Uwchgynhadledd, cefais y cyfle i annerch y cyfarfod llawn ffurfiol, a chafodd Cymru ei chynnwys fel enghraifft ryngwladol yn un o’r prif weithdai ar ddeddfwriaeth y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, y Ddeddf Gynllunio a Bil yr Amgylchedd, a sut y mae’n integreiddio ac yn cyflawni blaenoriaethau allweddol y Cenhedloedd Unedig o ran y Newid yn yr Hinsawdd, Amcanion Datblygu Cynaliadwy a’r Confensiwn ar Amrywiaeth Biolegol.
Roedd yr amserlen brysur yn cynnwys digwyddiad ar Arwain yr Hinsawdd Fyd-eang, ble yr oeddwn yn rhan o’r Panel, yn ogystal â Gweinidogion eraill o daleithiau a rhanbarthau amlwg, wedi’i gadeirio gan Maroš Sefcovic, Is-Lywydd y Comisiwn Ewropeaidd sy’n gyfrifol am Undod ar Ynni (Energy Union). Roedd hefyd yn cynnwys cyfarfod Cynghrair Taleithiau a Rhanbarthau y Grŵp Hinsawdd, sy’n cynnwys 331 miliwn o bobl ac 11% o’r Cynnyrch Domestig Gros byd-eang. Roedd Christiana Figueres, Ysgrifennydd Gweithredol Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd yn bresennol yn y cyfarfod, a Laurence Tubiana, Cynrychiolydd Arbennig Ffrengig COP21, a gyflwynodd y newyddion diweddaraf ar ddatblygiadau trafodaethau’r Cenhedloedd Unedig ac amlinelliad ar gyfer Paris.
Hefyd, cefais gyfres o gyfarfodydd gyda Gweinidogion o daleithiau sy’n bartneriaid a llywodraethau rhanbarthol er mwyn rhannu gwybodaeth am gynnydd a’r prif bolisïau. Mae hyn yn ategu ein proses o gydweithio’n rhyngwladol drwy fentrau megis y Cytundeb Byd-eang o Daleithiau a Rhanbarthau a’r Memorandwm Byd-eang ar Arwain ar yr Hinsawdd, ble yr ydym yn un o’r llonfodwyr gwreiddiol.
Ar y cyfan, roedd yr Uwchgynhadledd yn gyfle llwyddiannus i dynnu mwy o sylw at y camau yr ydym yn eu cymryd ar y newid yn yr hinsawdd, i adeiladu ar enw da Cymru fel enghraifft ryngwladol o ddatblygu cynaliadwy ac i dynnu sylw at y cyfraniad sylweddol yr ydym ni a thaleithiau sy’n bartneriaid wedi’u wneud – i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ac i gyflymu twf gwyrdd – er mwyn ychwanegu at y momentwm am gytundeb ym Mharis.
Gan gydnabod yr arweinyddiaeth sy’n cael ei arddangos yn y gynhadledd, mae’r gydnabyddiaeth gan yr Arlywydd Hollande yn ei brif araith i’r Uwchgynhadledd o bwysigrwydd y cyfraniad gan y taleithiau, y rhanbarthau a’r dinasoedd, i Baris, yn gam pwysig ymlaen. Mae datganiad yr Uwchgynhadledd, wedi’i lofnodi gan lywodraethau a sefydliadau sy’n fwy na dwy ran o dair o boblogaeth y byd, yn ei wneud yn un o’r datganiadau sydd wedi derbyn y gefnogaeth gryfaf erioed, yn dystiolaeth bellach o’r momentwm positif.
Fel a amlinellir yn ein Rhaglen Lywodraethu, rydym wedi ymrwymo i chwarae ein rhan yn llawn yn y camau yr ydym yn eu cymryd ar y newid yn yr hinsawdd, ac i gyfrannu’n llawn at y trafodaethau rhyngwladol a chyrraedd cytundeb newydd byd-eang. Byddaf felly’n parhau i gymeryd rhan yn y cyfle hanesyddol i ddod i gytundeb byd-eang a fydd yn fframio’r economi fyd-eang ac yn helpu i leihau anghydraddoldebau wrth fynd yn ein blaenau.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.