Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi gwybodaeth i’r Aelodau. Os yw’r Aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar y mater pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, rwy’n fwy na pharod i wneud hynny.
Mae ardrethi busnes bellach wedi’u datganoli i Gymru. Dyma garreg filltir hanesyddol. Mae cymryd rheolaeth dros y dreth hon yn cynnig cyfleoedd ond hefyd yn gyfrifoldeb.
Yn ddiweddar fe gyhoeddais ganfyddiadau’r Panel Ardrethi Busnes. Roeddent yn argymell sefydlogrwydd tymor byr yn y drefn ardrethi busnes ac yn pwysleisio pwysigrwydd parhau i gynnig pecyn cystadleuol i fusnesau.
Rwyf eisoes wedi cyhoeddi nifer o fesurau i gefnogi swyddi a thwf. Rydym wedi cyflwyno estyniad i’r cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach hyd at fis Mawrth 2016, ac wedi cytuno i osod cap o 2% ar y lluosydd ardrethi busnes yn 2015-16.
Hefyd rwy’n falch o gyhoeddi fy mwriad i ymestyn Cynllun Rhyddhad Manwerthu Cymru, gan gynyddu’r manteision i £1500 yn 2015-16. Bydd hyn yn darparu cymorth gwerthfawr i fusnesau ar draws Cymru.
Byddaf hefyd yn dechrau ar y gwaith o edrych ar yr argymhellion tymor hir a wnaed gan y Panel Ardrethi Busnes, gan gynnwys unrhyw newidiadau angenrheidiol i gynlluniau rhyddhad ardrethi eraill. Byddaf yn darparu rhagor o wybodaeth i’r Aelodau yn y man.