Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Iechyd
Cynhaliwyd adolygiad yn ddiweddar, gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, o'r cynnydd a wnaed dros y pedwar mis ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi o dan fesurau arbennig ar 8 Mehefin. Cafodd y trosolwg wedi'i dargedu, lefel uchel, hwn o gynnydd ei drafod ddoe mewn cyfarfod teiran o uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Cytunwyd yn y cyfarfod teiran fod y gwaith sy'n cael ei wneud gan y Bwrdd Iechyd fel rhan o'r cynlluniau 100 diwrnod wedi sicrhau bod sylw yn cael ei hoelio mewn nifer o feysydd allweddol a bod camau cadarnhaol wedi cael eu cymryd. Fodd bynnag, i fynd i'r afael â’r heriau mwy sylfaenol, bydd angen cynlluniau tymor hwy i adeiladu ar y cam cychwynnol hwn yn y broses o sefydlogi; bydd hyn yn arbennig o wir er mwyn gwella gwasanaethau iechyd meddwl yn y Gogledd.
Gan hynny, rwyf wedi derbyn y cyngor a gafwyd gan y cyfarfod teiran; dylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr barhau o dan fesurau arbennig am y ddwy flynedd nesaf a dylid adolygu cynnydd a cherrig milltir bob chwe mis.
Byddaf yn gwneud datganiad pellach ynghylch y cam nesaf o dan y trefniadau mesurau arbennig wedi'r toriad.
Gellir cael copi o'r llythyr adolygu mesurau arbennig a anfonwyd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oddi wrth Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ac ymateb y Bwrdd, yn: