Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Roeddwn yn bresennol yng nghyfarfod Cyngor Amaethyddiaeth a Physgodfeydd yr Undeb Ewropeaidd (UE) ym Mrwsel ddydd Llun 16 Tachwedd, fel rhan o Ddirprwyaeth Weinidogol y DU. Cymerais ran yn y cyfarfodydd briffio arferol gyda chydweithwyr cyn cyfarfod y Cyngor, gan nodi'r materion sy'n bwysig i Gymru. Roedd George Eustice AS, y Gweinidog Gwladol dros Defra a Dr Aileen McLeod ASA, Gweinidog Addysg Llywodraeth yr Alban yn bresennol ar yr achlysur hwn.
Un o drafodaethau'r Gweinidogion yn y cyfarfod oedd rhannu barn ar symleiddio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin. Hoffai Llywodraeth Cymru weld yr agenda symleiddio'n mynd ymhellach ac yn gynt. Roeddwn, fel Llywodraeth y DU yn annog y Comisiwn i ystyried a yw’r system gymhleth bresennol y ffordd orau o gyflawni ein hamcanion bwriedig o gydymffurfio, a chyllid priodol. Yn benodol, dywedais wrth fy nghydweithwyr y dylid cael mwy o ddisgresiwn cenedlaethol o ran sut yr ydym yn delio ag Ardaloedd Ecolegol, ac y dylai cyfraddau goddefgarwch ar gyfer tagiau dyfeisiadau adnabod electroneg gael eu cyflwyno i ganiatâu ar gyfer camgymeriadau technegol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn siomedig o glywed na fydd y Comisiwn yn adolygu'r rheolau Gwyrddu tan y flwyddyn nesaf. Rwyf i, fodd bynnag, yn croesawu meddwl agored y Comisiynydd Hogan ar gael rhywfaint o hyblygrwydd.
Cafodd Gweinidogion eu briffio hefyd gan y Comisiwn ar faterion masnach amaethyddol ryngwladol. Mae'r galw byd-eang am gynhyrchion amaethyddol yn codi o hyd yn sgil twf yn y boblogaeth a chynnydd yn yr incwm cyfartalog. O ganlyniad mae mwy o gynhyrchion anifeiliaid yn cael eu bwyta. Yr UE yw prif allforiwr a mewnforiwr cynhyrchion bwyd-amaeth o hyd, er gwaethaf effeithiau negyddol gwaharddiad Rwsia ar fewnforion a rhwystrau sy'n gysylltiedig â sicrhau iechyd pobl, anifeiliaid a phlanhigion. Mae'r UE yn parhau i ddigolledu am yr effeithiau hyn drwy geisio cynyddu allforion i fannau eraill a marchnadoedd amgen.
Ar y cyd ag ymdrechion y Comisiwn, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio tuag at gael mynediad i farchnadoedd i’r UDA, Tsieina a mannau eraill.
Rwyf yn falch bod Hybu Cig Cymru (HCC) wedi llwyddo i helpu i agor marchnadoedd allforio newydd ar draws Ewrop yn ogystal â'r Dwyrain Canol, y Dwyrain Pell, Sgandinafia a Chanada. Bydd rhaglen waith HCC yn sicrhau bod gan gig coch Cymru bresenoldeb cryf o hyd mewn marchnadoedd tramor allweddol. Rwyf hefyd yn falch bod y grŵp sydd wedi’i sefydlu i ystyried y sector wyn (Lamb Reflection Group) a gyhoeddwyd gan y Comisiynydd Hogan yn y Sioe Frenhinol eleni, wedi dechrau ar ei waith. Cyflwynais yr achos yn uniongyrchol i’r Comisiynydd am aelodaeth o Gymru ar y grŵp hwn, ac mae HCC wedi derbyn y rôl honno.
Bu Gweinidogion hefyd yn trafod y gwaith sy'n mynd rhagddo ar y Bartneriaeth Masnach a Buddsoddiad Trawsiwerydd (TTIP) rhwng yr UE a'r Unol Daleithiau i agor marchnad yr UD i gynhyrchion yr UE Cymru. Bu imi atgoffa fy nghydweithwyr fy mod yn parhau i geisio gael sicrwydd gan Lywodraeth y DU a sefydliadau’r UE na fydd unrhyw drefniant a gytunir arno yn gostwng safonau bwyd, iechyd, amgylcheddol na gwaith yng Nghymru, ac na fydd mewn unrhyw ffordd yn gostwng gwerth ein statws Enw Bwyd Wedi’i Amddiffyn.
Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth hefyd i'r datblygiadau yn y farchnad amaethyddol a sut y cafodd y pecyn o fesurau cymorth i'r farchnad, a gyflwynwyd i Weinidogion ym mis Medi eu rhoi ar waith. Bwriadwyd i'r mesurau hyn ymateb i'r anawsterau llif arian roedd ffermwyr yn eu hwynebu, gan sefydlogi'r marchnadoedd a mynd i'r afael â'r ffordd roedd y gadwyn gyflenwi yn gweithredu, hynny pan oedd sawl sector amaethyddol yn ymdopi â sefyllfa anodd.
Mae'r diwydiant llaeth yng Nghymru wedi cael ei fwrw'n drwm gan gyfuniad o ffactorau, fel gwaharddiad Rwsia ar fewnforion, cyfraddau cyfnewid arian cyfred a gorgyflenwi mewn marchnadoedd byd-eang. Mewn ymateb i hyn, rwyf wedi bod yn gweithio i gyflwyno achos ffermwyr Cymru i'r UE. Roeddwn yn falch bod yr ymdrechion hyn wedi arwain at becyn cymorth yr UE lle y bydd pob fferm yng Nghymru yn derbyn taliad o ryw £1,800 ar gyfartaledd. Mae’r taliadau hyn eisoes wedi dechrau cyrraedd cyfrifon banc ffermwyr.
Yn olaf, bu’r Cyngor yn trafod dyfodol y sector siwgr yn y DU. Bu imi atgoffa’r Gweinidogion mai Cymru oedd y Genedl Masnach Deg gyntaf, gan ddadlau bod yn rhaid, wrth newid i farchnad wedi cwotâu, ystyried anghenion ffermwyr masnach deg yn y gwledydd sy’n datblygu. Dywedais wrth fy nghydweithwyr am gyfarfod y cafodd y Prif Weinidog gyda Masnach Deg Cymru, ble y clywyd eu pryderon ynghylch dod â’r cwotâu i ben yn 2017, a’u cais y dylai yr UE drefnu menter newydd i gael llywodraethau, busnesau a chymdeithas waraidd i ariannu a darparu rhaglenni ar y cyd i gefnogi cymunedau tyfu siwgr yn ystod y cyfnod sydd o’n blaenau.