Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Pleser heddiw oedd cael cyhoeddi gwerth £11.5 miliwn o gyllid Ewropeaidd i’r prosiect Cynhwysiant Gweithredol gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC). Bydd y prosiect hwn, sy’n werth £16 miliwn, yn helpu pobl sy’n ddi-waith ers cyfnod hir a phobl sy’n economaidd anweithgar i gael gwaith. Cyhoeddais y newyddion heddiw mewn digwyddiad mawr a gynhaliwyd gan GGGC ar gyfer y trydydd sector, sef ‘Mae Ewrop o Bwys i Gymru’, a oedd yn dathlu cyfraniad yr Undeb Ewropeaidd i’r gwaith o adfywio Cymru yn economaidd a chymdeithasol.
Bydd y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol yn helpu mwy na 7,000 o bobl dros 25 oed yn y Gogledd a’r Gorllewin ac yn y Cymoedd dros y tair blynedd nesaf. Caiff ei rheoli gan Gyngor Gwirfoddol Cymru a bydd yn helpu cyrff i gynnig rhaglenni sgiliau a chyfleoedd pontio at gyflogaeth mewn ardaloedd lleol.
Bydd y cynllun yn helpu i wella rhagolygon gwaith pobl sy’n ddi-waith ers cyfnod hir, yn ogystal â phobl sy’n wynebu rhwystrau rhag gweithio oherwydd anabledd, diffyg sgiliau neu broblemau camddefnyddio sylweddau. Bydd mwy na 2,000 o leoliadau gwaith chwe mis yn cael eu creu i’w helpu i groesi’r bont at gyflogaeth gynaliadwy.
Erbyn 2018, bydd Cynhwysiant Gweithredol yn arwain at fwy na 4,000 o gymwysterau newydd seiliedig ar waith, yn helpu mwy na 3,500 o bobl i gael gwaith, ac yn helpu eraill i gael mwy o addysg a hyfforddiant. Rwy’n edrych ymlaen at gyhoeddi cyllid ar gyfer cangen y De-ddwyrain o’r prosiect yn ystod yr wythnosau nesaf.
Mae Cymru’n elwa o ryw £500 miliwn o arian Ewropeaidd bob blwyddyn i gefnogi swyddi a thwf, ac mae hynny’n cynnwys buddsoddiadau i helpu i gynnig mwy o gyfleoedd sgiliau a chyflogaeth i filoedd o bobl dan anfantais ledled Cymru. Bydd y buddsoddiad hwn o fwy nag £11 miliwn gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer Cynhwysiant Gweithredol yn gwneud cyfraniad pwysig i fywydau’r bobl fwyaf anghenus ac yn helpu i greu cymdeithas fwy teg, ffyniannus a chynhwysol yng Nghymru.