Lesley Griffiths, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Daw cyfnod presennol y Comisiynydd Plant i ben ar 28 Chwefror 2015. Mae’r broses o benodi Comisiynydd newydd wedi golygu cydweithio rhwng panel Gweinidogol trawsbleidiol a phanel amrywiol bobl ifanc. Bellach, mae’r broses wedi’i chwblhau yn llwyddiannus, a hoffwn estyn fy niolchiadau i bawb fu'n rhan o hyn.
Rwy'n falch iawn o gyhoeddi fod y Prif Weinidog wedi derbyn argymhelliad y Panel yn dilyn y broses ddethol ac wedi penodi yr Athro Sally Holland PhD QCS yn Gomisiynydd Plant nesaf Cymru.
Yn wreiddiol o gefndir gwaith cymdeithasol, mae yr Athro Holland yn gweithio ar hyn o bryd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd, yn darlithio ym maes gwaith cymdeithasol ac astudiaethau plentyndod ar lefel is-raddedig, Meistr a Doethuriaeth. Mae ganddi enw da yn rhyngwladol, gan iddi alluogi plant a phobl ifanc i gyflwyno eu safbwyntiau trwy waith ymchwil cyfranogol. Yr Athro Holland yw Cyfarwyddwr a sylfaenydd CASCADE (Canolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol Plant). Mae’r Ganolfan, sy'n cynnwys CASCADE Voices, yn rhoi cyfle i bobl ifanc fu mewn gofal graffu ar flaenoriaethau CASCADE. Hefyd, mae ganddi enw da iawn am ei gwaith ysgrifennu, ei gwaith ymchwil a'i siarad cyhoeddus am faterion plant. Mae ei meysydd arbenigedd yn cynnwys hawliau plant, safbwyntiau plant Cymru am ddinasyddiaeth a hunaniaeth, plant sy'n derbyn gofal, amddiffyn plant, a mabwysiadu. Mae hi hefyd wedi ymgyrchu dros, ac ymchwilio i, anghenion a hawliau plant.
Yn ogystal â'i phrofiad academaidd helaeth, bydd yr Athro Holland yn gallu manteisio ar ei phrofiad a hanes o swyddogaethau arwain, rheoli a llywodraethu sefydliadol wrth ymgymryd â’i swydd newydd. Mae ganddi brofiad sylweddol o weithio gyda’r cyfryngau hefyd, ac mae hi’n frwd ac yn gwbl ymroddedig i hyrwyddo hawliau plant yn annibynnol.
Bydd yr Athro Holland yn dechrau ar y swydd ar 20 Ebrill. Y Dirprwy Gomisiynydd Plant fydd yn ymgymryd â swyddogaethau’r Comisiynydd Plant o 28 Chwefror i 19 Ebrill 2015.
Hoffwn ddiolch i Keith Towler eto am ei ymrwymiad a'i lwyddiannau yn ystod ei gyfnod o 7 mlynedd fel Comisiynydd, ac rwy'n dymuno'n dda iddo, beth bynnag y bydd yn ei gyflawni yn y dyfodol.