Leighton Andrews AC, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Yn dilyn fy nghyhoeddiad yn gynharach eleni y byddem yn sefydlu Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus erbyn yr hydref, dechreuwyd ar broses penodiadau cyhoeddus i recriwtio Cadeirydd ac Aelodau i'r Comisiwn.
Heddiw, mae’n bleser gen i gyhoeddi fy mod wedi penodi Gill Lewis yn Gadeirydd y Comisiwn.
Mae'r broses o recriwtio Aelodau i'r Comisiwn Staff yn parhau. Byddaf yn gwneud datganiad pellach ym mis Medi pan byddaf yn cyhoeddi aelodau'r Comisiwn.
Manylion bywgraffyddol Gill Lewis:
Mae Gill Lewis wedi gweithio yn y sector cyhoeddus am bron i bedwar degawd fel cyfrifydd siartredig cymwysedig (CIPFA). Treuliodd rhan gynnar ei gyrfa yn y GIG fel hyfforddai cenedlaethol, a bu’n gweithio mewn swyddi ariannol a rheoli wedi hynny. Ymunodd â'r Comisiwn Archwilio ym 1988, ac fe'i penodwyd yn Archwilydd Dosbarth ym 1996. Bu’n dal nifer o swyddi uwch yn y Comisiwn Archwilio (Cymru a Lloegr) ac yn Swyddfa Archwilio Cymru, fel Pennaeth Archwilio ar gyfer y Comisiwn Archwilio yng Nghymru ac Uwch Bartner, yn y drefn honno.
Ers 2010, mae wedi ymgymryd ag amrywiaeth eang o rolau pwysig ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys Dirprwy Brif Weithredwr, Cyfarwyddwr Adnoddau Dros Dro a swyddog statudol Adran 151 a Chyfarwyddwr Rheoli Newid mewn gwahanol awdurdodau lleol. Roedd hi hefyd yn Gyfarwyddwr Prosiect ar gyfer gweithredu rhaglen trawsnewid effeithlonrwydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a thrawsnewid gweithlu mewn Bwrdd Iechyd. Mae'n gwneud gwaith llywodraethu corfforaethol lefel uchel, meincnodi adolygiadau cymheiriaid a gweithdroad sefydliadol ar gyfer awdurdodau lleol a chyrff eraill.
Roedd Gill yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar gyfer Cymdeithas Dai am dros 10 mlynedd, ac ar hyn o bryd mae’n aelod o fwrdd Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg yn y DU, Cadeirydd y Bwrdd ar gyfer y Rhanbarthau a Chyn Lywydd CIPFA yng Nghymru.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.