Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Ar 22 Hydref, cyhoeddais Cwricwlwm i Gymru, cwricwlwm am oes, sef fy nghynllun i fwrw ymlaen â'r argymhellion a bennwyd gan yr Athro Graham Donaldson yn ei adroddiad Dyfodol Llwyddiannus. Mae'r cynllun yn amlinellu sut y byddwn yn datblygu ein cwricwlwm newydd, sy'n eang, cytbwys, cynhwysfawr a heriol, gyda'n gilydd. Ac wrth wraidd y cwricwlwm y mae'r pedwar diben, sy'n rhoi'r cyfle i bob plentyn a pherson ifanc ddatblygu i fod:
- yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.
- yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith.
- yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd.
- yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Heddiw, rwy'n hynod o falch i gyhoeddi'r haen gyntaf o ysgolion sy'n rhan o'n Rhwydwaith o Ysgolion Arloesi. Byddant yn gweithio ochr yn ochr â'r Ysgolion Arloesi sydd eisoes yn datblygu'r Fframwaith newydd ar gyfer Cymhwysedd Digidol, er mwyn cynllunio a datblygu ein cwricwlwm newydd i Gymru, cefnogi ysgolion i baratoi ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm newydd, a sicrhau bod gan ymarferwyr y cyfleoedd dysgu proffesiynol sydd eu hangen arnynt drwy gydol eu gyrfaoedd. Fel rhan o’u gwaith, bydd Ysgolion Arloesi (y Fargen Newydd) hefyd yn ystyried materion llwyth gwaith yn ein hysgolion. Maes o law, bydd yr Ysgolion Arloesi yn dod ynghyd i gefnogi pob ysgol i wireddu'r weledigaeth a nodwyd yn adroddiad yr Athro Donaldson.
Mae ein Hysgolion Arloesi wedi'u lleoli ym mhob rhan o Gymru ac yn cynrychioli amrediad o wahanol ysgolion o ardaloedd gwledig a threfol; cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg; ysgolion cynradd ac uwchradd, ysgolion arbennig, ysgolion o natur grefyddol, ac ysgolion o wahanol feintiau. Mae enwau'r ysgolion hyn wedi'u cynnwys fel atodiad.
Fel rhan o'r dull hwn o weithio, mae Owain ap Dafydd, Pennaeth Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, eisoes wedi dwyn ynghyd rhwydwaith o dros 30 o ysgolion cyfrwng Cymraeg a fydd yn chwarae rhan allweddol yn Rhwydwaith ehangach yr Ysgolion Arloesi, drwy gynllunio a datblygu'r cwricwlwm newydd a chefnogi'r gwaith o weithredu'r Fargen Newydd. Yn sgil hynny, er bod rhai o'n hysgolion cyfrwng Cymraeg eisoes wedi'u cynnwys yn y rhestr yr wyf yn ei chyhoeddi heddiw; caiff eraill eu hadnabod fel rhan o'r trafodaethau sy'n mynd rhagddynt ag Owain a'r consortia rhanbarthol - gan ddatblygu ei rwydwaith - dros yr wythnosau nesaf. Er mwyn arwain hwn, mae Owain wedi rhoi gwybod am ei fwriad i roi'r gorau i'w rôl fel aelod o'r Grŵp Cynghori Annibynnol.
Bydd pob aelod o Rwydwaith yr Ysgolion Arloesi, p'un a oeddent yn canolbwyntio yn y lle cyntaf ar gymhwysedd digidol, cynllunio a datblygu'r cwricwlwm, neu'r Fargen Newydd, yn cydweithio'n agos â'i gilydd, ac â'u clystyrau, â'u rhwydweithiau, â'u grwpiau ehangach ar gyfer rhanddeiliaid, er mwyn sicrhau bod cynifer o'n hysgolion ag sy'n bosibl yn ymwneud â'r agenda gyffrous hon o'r cychwyn cyntaf. Dros amser, bydd y tair elfen yn dod ynghyd i sichrau bod pob un o'r ymarferwyr yn cael eu cefnogi i wireddu'r dyfodol uchelgeisiol a chyffrous ar gyfer ein system addysg - ac ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yma yng Nghymru.