Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Gwnes hysbysu’r Aelodau ym mis Mehefin ynghylch fy nghynlluniau i sefydlu cymhwysedd digidol o fewn ein hysgolion drwy fframwaith newydd a fydd ar gael o fis Medi 2016. Cyflwyno Fframwaith Cymhwysedd Digidol newydd fydd y cam cyntaf yn y gwaith o ddatblygu ein cwricwlwm newydd uchelgeisiol.
Bydd y fframwaith hwn yn sefydlu cymhwysedd digidol fel cyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, ochr yn ochr â llythrennedd a rhifedd. Bydd hefyd yn sicrhau bod cymhwysedd digidol yn cael ei gydnabod fel sgil allweddol y bydd ei angen ar ein holl bobl ifanc i lwyddo.
Trwy gyflwyno’r fframwaith mewn ysgolion bydd cyfle i ddysgwyr ddatblygu’n ddefnyddwyr hyderus a chreadigol o dechnolegau digidol a meithrin y sgiliau sydd eu hangen ar ein heconomi i ffynnu. Bydd dysgu ac addysgu yn y modd hwn hefyd yn dylanwadu ar sgiliau sylfaenol addysgu. Wrth i sgiliau digidol ddatblygu’n sgiliau cynyddol bwysig yn yr ystafell ddosbarth bydd angen persbectif newydd ymhlith y gweithlu addysgu.
Dyma pam rwy’n awyddus i sicrhau bod y dull newydd hwn o addysgu ein plant yn cael ei ddatblygu gan y goreuon o blith proffesiwn addysgu Cymru. Mae angen i ysgolion ac ymarferwyr blaengar sy’n arwain o fewn y maes gydweithio â Llywodraeth Cymru, y consortia addysg rhanbarthol, addysg uwch, diwydiant, rhieni a dysgwyr er mwyn creu cwricwlwm newydd a fydd yn cefnogi ac yn ysbrydoli ein pobl ifanc i gyflawni hyd eithaf eu gallu.
Pleser yw cyhoeddi heddiw fy mod wedi cymeradwyo grŵp o Ysgolion Arloesi Digidol – grŵp cyntaf ein rhaglen Ysgolion Arloesi – sydd wedi’u dewis i greu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol newydd. Mae’r Ysgolion Arloesi hyn wedi’u dewis o bob rhan o Gymru ac maent yn cynrychioli’r goreuon o blith ein hysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig. Byddant yn gweithio ar draws ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg er mwyn sicrhau ein bod yn creu fframwaith sy’n gweddu i bob dysgwr.
Bydd eu gwaith yn dechrau yn ystod tymor yr hydref o dan oruchwyliaeth grŵp cyfeirio annibynnol o randdeiliaid a fydd yn cynnwys arweinwyr o fyd busnes ac o fyd addysg. Bydd y rhain yn cynnwys cynrychiolwyr o’n Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol a chyflogwyr digidol blaenllaw fel Microsoft a’n Panel Sector TGCh. Byddaf hefyd yn disgwyl i addysg uwch – o fewn y DU a thu hwnt – sicrhau ansawdd unrhyw ddull y byddwn yn ei ddatblygu yng Nghymru. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod ysgolion Cymru ar flaen y gad a byddwn yn manteisio ar arbenigedd o bob ban byd i gyflawni hyn.
Dyma’r ysgolion: (Annex)
Rwy’n falch iawn ein bod yn adeiladu ar y momentwm a’r awydd sy’n bodoli yng Nghymru i greu system addysg o’r radd flaenaf ac i ddod â’r ysgolion hyn ynghyd i greu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol newydd. Bydd y gwaith blaengar hwn yn sicrhau bod gan ddysgwyr o Gymru fantais enfawr a bydd yn helpu â’r gwaith parhaus o godi safonau ar draws ein system addysg.