Mark Drakeford, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ym mis Mehefin 2012, gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad i greu Gwasanaeth Gwaed ar gyfer Cymru gyfan.Mae'n bleser gen i gyhoeddi y bydd gan Gymru wasanaeth unedig o 2 Mai 2016, lle bydd yr holl waed a chynhyrchion gwaed sy'n cael eu rhoi yng Nghymru yn cefnogi cleifion yng Nghymru yn uniongyrchol.
Ar hyn o bryd, mae'r gwaith o gasglu, prosesu a dosbarthu cynhyrchion gwaed yn cael ei wneud gan Wasanaeth Gwaed Cymru yn y De, y Canolbarth a'r Gorllewin a chan wasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG yn y Gogledd.
Mae gwasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG wedi darparu gwasanaeth hanfodol i drigolion y Gogledd, ac nid yw'r cais i ddod â'i wasanaethau i ben yn adlewyrchiad o unrhyw fethiant ar ei ran. Mae gwaed yn elfen hanfodol o’r gwasanaeth iechyd, ac felly rhaid iddo fod yn ganolog iddo. Bydd newid at wasanaeth ar gyfer Cymru gyfan yn sicrhau bod gan Gymru drefniadau cynaliadwy yn eu lle sy’n cyd-fynd â'n dymuniadau cenedlaethol ar gyfer y GIG.
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi gweithio'n agos gyda gwasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, a phartneriaid allweddol eraill i ddatblygu cynigion ar gyfer y gwasanaeth newydd i Gymru gyfan. Mae hyn wedi golygu llawer o gydweithio, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi helpu i lunio’r trefniadau newydd ac am eu hymdrechion i sicrhau bod y cyfnod pontio at y gwasanaeth newydd yn un llyfn.
Mae cyflenwi gwaed i ysbytai ledled y Gogledd yn dibynnu ar deyrngarwch parhaus ein rhoddwyr yn y rhanbarth. Rwyf am i'r cyfnod pontio i’r gwasanaeth newydd ar gyfer Cymru gyfan fod yn ddi-dor, felly rydym yn gofalu bod yr holl roddwyr yng Nghymru yn gwybod pa mor werthfawr yw eu rhodd o waed ac yn ceisio osgoi unrhyw drafferthion yn y trefniadau casglu. Nod y gwasanaeth newydd yw cynnal teyrngarwch y rhoddwyr; annog pobl newydd i roi, ac ail-gysylltu â'r rheini sydd wedi gorffen.
Bydd y gweithlu medrus a gyflogir gan wasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG yn y Gogledd yn cael eu trosglwyddo i’r Gwasanaeth Gwaed newydd ar gyfer Cymru gyfan dan y trefniadau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau. Bydd timau ym Mangor a Wrecsam yn trefnu cyfuniad o sesiynau rhoi gwaed cymunedol a symudol; bydd casgliadau yn parhau mewn lleoliadau a ddefnyddir gan y gwasanaeth ar hyn o bryd, a bydd clinigau newydd yn cael eu sefydlu mewn lleoliadau gwaith a lleoliadau eraill.
Bydd y gwaed a roddir yn mynd i uned newydd yn Wrecsam, ac yn cael ei brosesu yn labordai Tonysguboriau. Ar ôl ei brosesu, bydd yn dychwelyd i Wrecsam i’w ddosbarthu i Ysbyty Bangor, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam. Bydd yr ysbytai hyn yn cadw stoc rhywfaint yn fwy o waed, gan leihau'r angen i gludo gwaed iddynt ar frys heb rybudd. Mae gan wasanaethau gwaed y DU drefniadau cyfatebol os oes angen gwaed prin neu waed ar frys.
Bydd y gwasanaeth ar gyfer Cymru gyfan yn sicrhau’r manteision canlynol:
- Bydd y gwasanaeth yn fwy effeithiol a chadarn ac yn ymateb yn well i anghenion Cymru
- Sicrwydd swyddi i 41 o staff gwasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG sy'n trosglwyddo i Wasanaeth Gwaed Cymru; bydd wyth swydd newydd yn cael eu creu yn Wrecsam ac wyth swydd newydd yn y De
- Bydd 25 o glinigau ychwanegol ar gyfer rhoi gwaed
- Bydd arbedion hirdymor o £596,000 bob blwyddyn.
Mae’r gwasanaeth ar gyfer Cymru gyfan yn cynnig cyfleoedd ar gyfer ymdrechion cyd-gysylltiedig a chydweithredol i wneud defnydd darbodus o gyfansoddion gwaed; sicrhau'r arbedion mwyaf a’r gwastraff lleiaf. Mae’r gwasanaeth wedi ymrwymo i ddefnyddio technoleg newydd a datblygiadau gwyddonol i sicrhau bod pob punt Gymreig sy'n cael ei buddsoddi mewn gwasanaethau gwaed yn diwallu anghenion pobl Cymru.
Er bod llawer iawn o waith wedi'i wneud hyd yma, mae mwy i'w wneud o hyd. Mae cynlluniau pontio’n cael eu cwblhau i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu trosglwyddo’n ddiogel.
Mae meddygaeth fodern yn dibynnu ar y ffaith bod gwaed a chynhyrchion gwaed ar gael yn hawdd, ac mae gan Wasanaeth Gwaed Cymru enw da am ddarparu gwasanaethau sy'n ddiogel, yn ddibynadwy ac yn effeithlon. Wrth greu gwasanaeth ar gyfer Cymru gyfan, gallwn sicrhau gwerth am arian i Gymru a chynnal gwasanaeth o ansawdd uchel.